Bro’r Sgydau

Mae Bro’r Sgydau yn lle arbennig iawn i ymweld ag o ac mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud yno. Mae’r ardal hon yn bwysig yn rhyngwladol o ran y bywyd gwyllt mae’n ei gefnogi ac mae wedi cael ei ddynodi yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Cliciwch yma i fynd i brif dudalen Bro’r Sgydau neu darllennwch ymlaen am fwy o wybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud yn yr ardal arbennig hon.

Mae cymaint â 160,000 o dwristiaid yn ymweld â Bro’r Sgydau bob blwyddyn ac mae’n debygol y bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu. O ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y twristiaid, mae’r llwybrau yn yr ardal wedi erydu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Parc Cenedlaethol yn pryderu am hyn gan fod yr ardal nid yn unig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ond hefyd yn Ardal Gadwraeth Arbennig – sy’n golygu fod yr ardal wedi’i gwarchod dan gyfraith yr UE.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos i geisio dadwneud y difrod.

Gyda’n gilydd rydym wedi creu Cynllun Rheoli Bro’r Sgydau. Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r holl wybodaeth am yr ardal, ei nodweddion a’i phroblemau. Yn bwysicaf oll mae’n cynnwys cynllun gweithio pum mlynedd sy’n manylu ar yr holl brosiectau a thasgau sydd ar y gweill ac sy’n allweddol i wella’r ardal hon.

Llwythwch PDF o’r cynllun rheoli i lawr yma.

Dyma ardaloedd allweddol y prosiect:

  • Parcio Ceir: Datrys y problemau parcio ceir yn yr ardal a gwella’r adnoddau parcio.
  • Gweithgareddau Awyr Agored: Prosiectau sy’n trafod diogelwch a chynaladwyedd gweithgareddau awyr agored yn yr ardal.
  • Ardal Gadwraeth Arbennig, SoDdGA, Henebion Rhestredig a diddordeb daearegol: Arolygon, casglu gwybodaeth a rheoli cynefinoedd.
  • Monitro ymwelwyr: Monitro boddhad ymwelwyr a nifer ymwelwyr.
  • Cymuned: Sefydlu cysylltiad rheolaidd gyda’r gymuned leol a chydnabod eu pryderon a gweithredu arnynt .
  • Addysg: Ymgorffori gwybodaeth am fuddion Ardal Gadwraeth Arbennig a SoDdGA mewn deunydd addysgol ac mewn teithiau cerdded a sgyrsiau tywys.
  • Prosiectau Eraill: Hyfforddi staff a sefydlu grŵp llywio craidd.
  • Dehongli: Datblygu dehongliad yn unol ag egwyddorion a safonau ymarfer da fel y nodir yng Nghynllun Dehongli Bro’r Sgydau ac yn Strategaeth Ddehongli’r Parc Cenedlaethol.
  • Cynnal a chadw’r safle: Codi ysbwriel, defaid ar grwydr, ffensio ffiniau a chynnal a chadw llwybrau.
  • Diogelu ac Amdiffyn: Trafod trosedd yn yr ardal â’r heddlu a chynnal arolygon diogelwch blynyddol.  
  • Hawliau Tramwy a Phatrolau: Adnabod, blaenoriaethu a chynnal a chadw a gwneud gwelliannau i hawliau tramwy.
  • Ariannu: Adolygiad blynyddol o’r adnoddau sydd ar gael i brosiectau allweddol a thasgau sydd ar y gweill.

Hyd yn hyn mae Wardeiniaid yr Ardal Orllewinol wedi gwneud y gwelliannau canlynol i’r ardal:

  • Llwybr carreg 40m i lawr at Sgwd Clun Gwyn er mwyn lleihau erydu difrifol ar y clogwyni o gwmpas y sgwd [2008]
  • Bwrdd cerdded 60m ar y llwybr rhwng Sgwd Isaf Clun Gwyn a Sgwd y Pannwr [2008]
  • Pont newydd ar Lwybr y Pedwar Sgwd i wella’r mynediad atynt ac atal difrod i’r cynefin ar lan yr afon [2008]
  • Gwella draeniau – angenrheidiol ar ôl dau haf gwlyb iawn  [2008]
  • Gwella wyneb y llwybr at faes parcio Gwaun Hepste [2008]
  • Ail-wynebu’r llwybr o Sgwd Clun Gwyn at y groesffordd [2008]
  • Ail-wynebu’r grisiau i lawr at Sgwd y Pannwr [2008]
  • Clirio llystyfiant ar lwybrau troed wedi gordyfu [2008]
  • Pyst cyfeirbwynt a mynegbyst newydd ar Lwybr y Pedwar Sgwd [2008]
  • Rheoli erydu yn Sgwd Clun-Gwyn [2009]
  • Gwaith ar wyneb y llwybr i Sgwd Isaf Clun-Gwyn [2009]
  • Gosod paneli gwybodaeth derw newydd [2009]
  • Gwella wyneb llwybr y Gweithiau Powdwr Du [2009-2010]
  • Gwella wyneb grisiau at Sgwd yr Eira [2010]
  • Gosod mwy o fynegbyst a physt cyfeirbwynt [2010]
  • Croesfan ddŵr newydd ar Lwybr Elidir [2010-2011]

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Pye – warden Bro’r Sgydau