RHAGYMADRODD
Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhoi cyngor ar gynllunio, trefnu a rhedeg gwyliau cerdded. Mae’n ceisio’ch helpu os ydych chi wrthi’n trefnu gŵyl am y tro cyntaf, neu os hoffech chi wella gŵyl sydd eisoes yn bod. Mae’r pecyn wedi’i drefnu’n adrannau, ac mae gan bob adran:
- Rhagymadrodd
- Gwybodaeth ar gyfer gwyliau newydd a gwyliau presennol
- Naratif (a darluniau fel y bo’n briodol)
- Rhestrau gwirio
- Enghreifftiau o astudiaethau achos
- Blychau cynghorion
- Ffynonellau rhagor o wybodaeth
Mae pob gŵyl yn wahanol, felly fe fyddwch chi am ddatblygu’ch ffordd eich hun o wneud pethau. Serch hynny, rydyn ni wedi cynnwys dulliau gwahanol sydd wedi’u defnyddio gan wyliau eraill a allai fod o gymorth. Rydyn ni wedi cynnwys rhestrau gwirio hefyd, a allai fod yn fuddiol, ynghyd â chynghorion – nodiadau atgoffa a phethau a allai fod yn newydd ichi!
Gallwch ddarllen y pecyn cymorth o glawr i glawr, neu droi’n syth at y pwnc sydd o ddiddordeb ichi. Dyma’r adrannau:
- Pam rydych chi am ddechrau gŵyl gerdded?
- Sut beth fydd eich gŵyl?
- Dechrau gŵyl gerdded
- Meddwl am gynllunio
- Pethau i’w hystyried yn ystod yr ŵyl
- Ar ôl yr ŵyl
Rydyn ni’n gobeithio diweddaru’r pecyn cymorth wrth i drefnwyr gwyliau ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, felly gofalwch anfon aton ni i roi gwybod am eich profiadau chi.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i bartneriaid Partneriaeth Datblygu De Kerry a Chyngor Sir Mayo. Cafodd y gwaith ei ariannu gan Rural Alliances, a gefnogir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd a Rhaglen Llywodraeth Cymru, Arian Cyfatebol a Dargedir
‘Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd a Rhaglen Llywodraeth Cymru, Arian Cyfatebol a Dargedir’