Mae’r rheini ohonom sy’n ymwneud â rheoli’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyfrif ein hunain yn ffodus iawn. Ym mhob cyfarfod, rydym yn darllen am y gwaith anhygoel a chreadigol a wneir gan wirfoddolwyr a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’w cymunedau – weithiau rydyn ni hyd yn oed yn cael cwrdd â nhw. Maen nhw’n bwrw ati’n dawel gyda’u gwaith gydag ymrwymiad enfawr, ac anaml iawn y maen nhw’n gwneud y newyddion – er y dylen nhw! Mae’n donig go iawn gwybod bod pobl yn gweithio’n anhunanol ledled y Parc Cenedlaethol (a thu hwnt) i wneud pethau’n well i’w cymdogion, ymwelwyr a’r amgylchedd lleol. Mae’r rhain yn wneuthurwyr newid go iawn ac maent yn gwella ansawdd bywyd i bob un ohonom.
Rydym wedi parhau i gefnogi ystod eang o brosiectau cymunedol a threftadaeth fel y darllenwch isod, a bu ffocws cryf parhaus ar effeithlonrwydd ynni eleni. Rydym i gyd yn gweithio i gyflawni’r weledigaeth a’r camau gweithredu a nodir yn Y Bannau – Y Dyfodol, Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, gyda’r nod allweddol o leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau. Roeddem yn falch iawn o dderbyn grant Cronfa Ffyniant Gyffredin a ariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy Gyngor Sir Powys yn ystod y flwyddyn i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau cymunedol. Bydd hyn yn cefnogi archwiliadau ynni, cymorth gweithredu a gosod – mwy am hyn y flwyddyn nesaf!
Diolch i bawb sy’n helpu i wneud y Gronfa hon yn llwyddiant – yn bennaf oll y gwirfoddolwyr ac arweinwyr ysbrydoledig yng nghymunedau’r Parc Cenedlaethol. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i’m cyd-Aelodau Pwyllgor CDC y Parc Cenedlaethol a’r Panel Cynghori ar Grantiau – mae eu sgiliau a’u harbenigedd yn amhrisiadwy. Mae ein tîm Swyddogion ymroddedig yn cefnogi ymgeiswyr y Gronfa ar bob cam a gwerthfawrogir eu hanogaeth, fel y darllenwch isod.
Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am y gwaith a wnaed gan gymunedau’r Parc Cenedlaethol yn 2023-24 – rydym yn falch iawn o chwarae rhan fach i’w cefnogi.
Y Cynghorydd Peter Baldwin,
Cadeirydd CDC