Gofalu am ein harchaeoleg

Archaeoleg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n helpu i’w wneud yn lle mor arbennig.  Hwn yw etifeddiaeth ein cyndeidiau ac mae’n cynnwys gwybodaeth werthfawr am bobl a’u bywydau yn y gorffennol.  Serch hynny, mae’r olion archaeolegol hyn yn fregus ac yn adnodd cyfyngedig. Os byddwn yn eu colli nawr, byddan nhw’n diflannu am byth. Felly, mae angen eu rheoli’n ofalus ac yn gynaliadwy fel eu bod yn goroesi er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Rôl Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Prif ddiben Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella’r hyn sy’n ei wneud yn lle arbennig. Un o’r pethau sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle mor arbennig yw ein hamrywiaeth eang o safleoedd archaeolegol sydd mewn cyflwr da o bob cyfnod trwy hanes dynol.  Er mwyn rheoli ein harchaeoleg mewn modd cynaliadwy a’i chadw i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau, mae angen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddeall ein holion archaeolegol, gwybod ble maent a beth ydynt, ym mha gyflwr yr ydynt, ac a oes unrhyw fygythiadau i’w parhad. Yna, gellir rheoli unrhyw fygythiadau yn ofalus a’u lleddfu er mwyn lleihau’r risg i’n treftadaeth werthfawr. Er mwyn cyflawni hyn, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyflogi archaeolegydd sy’n cadw cofnod o’r archaeoleg yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r swyddog hwn yn cydweithio’n agos â Cadw, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a thrigolion lleol.  Hefyd, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog nifer o wirfoddolwyr sydd â diddordeb arbennig mewn archaeoleg a threftadaeth ac sy’n cydweithio â ni i helpu i warchod ein harchaeoleg trwy gynnal ymweliadau ac arolygon safle, rhoi gwybod am unrhyw broblemau a’n helpu i gadw safleoedd.

Beth allwch chi ei wneud i warchod ein harchaeoleg?

Gallwch ein helpu i warchod ein harchaeoleg trwy ddilyn y cyngor canlynol:

Mwynhewch edrych yn ôl ar y gorffennol trwy ymweld â’r safleoedd archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cofiwch fod pob safle archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arbennig ac yn unigryw, ac yn cyfrannu at wneud Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle mor arbennig.

Cofiwch fod safleoedd archaeolegol yn adnodd gwerthfawr a phwysig, ond bregus, sy’n cynnwys gwybodaeth am fywydau ein cyndadau. Os bydd y wybodaeth honno’n cael ei difrodi, caiff cliw hanfodol am y gorffennol ei golli am byth.

Cofiwch nad olion mawr neu fawreddog yw pob safle archaeolegol – mae rhai ohonynt yn fach ac yn ddiymhongar.  Efallai bydd ardal gyda nifer fach o wrthgloddiau isel iawn yn cuddio olion archaeolegol pwysig iawn o dan y ddaear.  Os nad ydych yn siŵr p’un a yw rhywbeth yn safle archaeolegol ai peidio, gofal piau hi a gadewch i’r safle fod.

Rhowch wybod i ni am unrhyw ddifrod a welwch.

Peidiwch ag amharu ar safleoedd archaeolegol trwy dynnu neu symud cerrig.

Peidiwch â chloddio safle archaeolegol nac o’i gwmpas.

Peidiwch â thynnu unrhyw ddeunydd o safle archaeolegol.

Peidiwch â chynnau barbiciw, tân, coelcerth na thân gwersyll ar safle archaeolegol nac o’i gwmpas.

Peidiwch â gyrru neu reidio ar draws gwrthgloddiau archaeolegol.

Peidiwch â gollwng neu storio unrhyw beth ar safle archaeolegol.

Peidiwch â defnyddio datgelyddion metel ar Henebion Cofrestredig, ar dir y mae’r Parc Cenedlaethol yn berchen arno, neu’n unrhyw le heb ganiatâd y tirfeddiannwr.