Llinell amser

Yr Oes Efydd

Cyfnod cynhanesyddol o oddeutu 2300-800CC yw’r Oes Efydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth bodau dynol offer ac arfau o aloi copr neu efydd, er na wnaethant roi’r gorau i ddefnyddio technoleg cerrig cynharach. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yr hinsawdd ar gyfer y rhan fwyaf o’r Oes Efydd yn…

Y Cyfnodau Ôl-ganoloesol a Diwydiannol

Mae olion y cyfnodau ôl-ganoloesol a diwydiannol sy’n goroesi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yno i bawb eu gweld, o aneddiadau anghyfannedd a ffermydd, ffermydd cwningod a chorlannau a adawyd, i’r chwareli, odynau, camlesi a thramffyrdd. Daw nifer o’r olion hyn o’n gorffennol mwy diweddar ac efallai eu bod yn…

Yr Oes Haearn

Y cyfnod cynhanesyddol o oddeutu 800CC i ddyfodiad y Rhufeiniaid yng Nghymru oddeutu 75OC yw’r Oes Haearn. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd bodau dynol y defnydd o haearn i wneud offer ac arfau. Mae’n gyfnod sy’n aml yn cael ei ystyried yn gyfnod llwythi Celtaidd rhyfelgar, fodd bynnag, er…

Cyfnod y Rhufeiniaid

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniad o Brydain yn 43OC, a daeth dyfodiad y Rhufeiniad i Gymru â’r Oes Haearn i ben. Roedd gan Gymru lawer o adnoddau naturiol a oedd yn werthfawr i’r Rhufeiniaid, gan gynnwys copr ac aur. Fodd bynnag, daeth y Rhufeiniaid ar draws gwrthwynebiad ffyrnig gan y llwythi…

Yr Oesoedd Canol

Mae cyfnod yr Oesoedd Canol yn cwmpasu cyfnod maith o ddiwedd y llywodraeth Rufeinig yng Nghymru yn y 4edd ganrif OC i ddiwedd Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae’n gyfnod a welodd newidiadau mawr, fel dirywiad dylanwad y Rhufeiniaid, esgyniad Cristnogaeth ac Eglwys Cymru a dyfodiad y Normaniaid. Mae olion cyfnod cynnar…

Oes y Cerrig

Mae Oes y Cerrig yn gyfnod hir iawn sy’n ymestyn o oddeutu 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl i oddeutu 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma pryd oedd y bobl gyntaf yn byw yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn dechrau defnyddio ei adnoddau a gadael eu hôl ar…