Yr Oes Haearn

Yr Oes Haearn yw’r cyfnod cynhanesyddol o tua 800CC hyd at ddyfodiad y Rhufeiniaid yng Nghymru tua 75OC. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd y defnydd o haearn ei berffeithio gan ddynion er mwyn gwneud offer ac arfau. Ystyrir hwn fel cyfnod lle’r oedd llwythau Celtaidd yn ymladd, ond er bod safle amddiffynnol yn ffactor wrth adeiladau Bryngaerau’r Oes Haearn, fe welwch fod llawer mwy i’r safleoedd pwysig hyn na hynny’n unig.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod yr hinsawdd ym Mhrydain wedi dechrau dirywio ar ôl cynhesrwydd cymharol dechrau’r Oes Efydd o oddeutu 1000CC ymlaen. Roedd hyn yn golygu bod hinsawdd yr Oes Haearn yn debyg iawn i’r hyn rydym yn ei brofi heddiw, ac nid oedd yr ardaloedd uwchdirol a ffermiwyd yn ystod yr Oes Efydd yn dir amaeth cynhyrchiol mwyach.  Credir bod hyn wedi arwain at fwy o gystadleuaeth am yr ardaloedd iseldirol lle’r oedd draeniad da ar gyfer ffermio, gan arwain at fwy o densiwn, gwrthdaro ac efallai mwy o ymosodiadau rhwng cymunedau.

Daeth amddiffyniad a thir yn ffactorau pwysicach a datblygwyd aneddiadau pen bryn amddiffynnol.  Yn ystod yr Oes Haearn, datblygodd yr aneddiadau pen bryn amddiffynnol hyn yn rhai o’r safleoedd archaeolegol mwyaf amlwg sydd i’w gweld ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hyd heddiw, sef Bryngaerau’r Oes Haearn.

 

Credir bod bryngaerau’r Oes Haearn wedi’u hadeiladu’n gyntaf oddeutu 500CC a’u defnyddio nes i’r Rhufeiniaid feddiannu’r ardal (ac o bosib am gyfnod wedi hynny).  Mae’r rhan fwyaf o’r bryngaerau sydd wedi goroesi yn llociau amddiffynnol gweddol fach a fyddai wedi cynnwys nifer fach o dai crwn a strwythurau cysylltiedig e.e. corlannau da byw ac ydlofftydd, wedi’u hamgylchynu gan ffos amddiffynnol a chlawdd neu wrthglawdd gyda strwythurau palisâd ar ei ben.  Fodd bynnag, roedd bryngaerau o bob lliw a llun gyda rhai enghreifftiau mawr iawn, ac roedd strwythur yr amddiffynfeydd yn dibynnu ar ba ddeunyddiau oedd ar gael, gyda cherrig, pridd a choed (neu gymysgedd o ddeunyddiau) yn cael eu defnyddio i adeiladu rhagfuriau.  Roedd llawer o fryngaerau hefyd yn defnyddio amddiffynfeydd naturiol y llethrau serth neu’r clogwyni.  Dim ond drwy fynedfeydd a phyrth a gafodd eu hadeiladu’n strategol y gellid mynd i mewn i fryngaerau a oedd yn ffordd o reoli mynediad iddynt.

 

Byddai’r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw bryngaer yn dasg enfawr a byddai angen gweithlu trefnus a medrus iawn; nid dim ond pobl oedd yn byw yn y fryngaer fyddai’n gwneud hyn, byddai’n rhaid cael gweithlu mwy. Mae hyn yn esbonio cymdeithas gymhleth a threfnus yr Oes Haearn. Ni chredir bod bryngaerau’n strwythurau amddiffynnol yn unig, er eu bod yn anochel bod amddiffyniad yn rhan o’u hadeiladwaith. Fodd bynnag, mae tystiolaeth wrth gloddio’n awgrymu bod bryngaerau wedi’u meddiannu’n barhaol erbyn canol yr Oes Haearn, ac efallai eu bod wedi datblygu’n ganolfannau gwleidyddol, cymdeithasol, crefyddol a marchnad pwysig a oedd yn gwasanaethu neu’n rheoli’r ardal leol, lle byddai gweithgareddau arbenigol, fel gwaith metel, yn cael eu gwneud.

 

Mae 27 o fryngeyrydd o’r Oes Haearn, a llawer mwy o lociau ac aneddiadau amddiffynnol i’w gweld ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hyd heddiw, mewn amryw gyflyrau o gadwraeth.  Er eu bod yn adfeilion bellach ar ôl cael eu gadael am 2,000 o flynyddoedd, mae llawer ohonynt yn safleoedd trawiadol ac atgofus o hyd.

 

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1996) Prehistoric peoples their life and legacy Pen-y-bont ar Ogwr: D. Brown and Sons Ltd.

Cadw (2005) Caring for Hillforts and Homesteads Caerdydd: Cadw.

Leighton D (2012) The Western Bannau Brycheiniog. The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr Aberystwyth: Cambrian Printers.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (1997) Brecknock: Later Prehistoric Monuments and Unenclosed Settlements to 1000 AD Stroud: Sutton Publishing

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (1986) An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog): Hill-forts and Roman Remains Pt. 2: Prehistoric and Roman Monuments Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi.