Yr Oes Efydd

Mae’r Oes Efydd yn gyfnod cynhanesyddol sy’n dyddio o tua 2300-800CC. Yn ystod y cyfnod hwn roedd dynion yn gwneud offer ac arfau allan o aloion copr neu Efydd, er ni wnaethon nhw roi’r gorau yn llwyr i dechnolegau cerrig cynharach. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod hinsawdd y rhan fwyaf o’r Oes Efydd yn gynhesach na hinsawdd yr oes hon, gyda chynnydd cyson yn y boblogaeth, a thir sy’n ymddangos yn anghysbell ac yn ynysig heddiw yn cael ei ddefnyddio gan bobl y cyfnod. Y gred yw bod pobl yn yr Oes Efydd wedi byw mewn tai crwn wedi’u gwneud o bren, plethwaith, dwb a gwellt. Roeddent wedi’u lleoli mewn clystyrau o grwpiau bychain, yn agos at gorlannau a chaeau a oedd yn cael eu trin â llaw.

Mae yna lawer o safleoedd yr Oes Efydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Meini Hirion, Cylchoedd Cerrig a Charneddau Crynion. Mae mwy o wybodaeth am y safleoedd pwysig hyn isod.

Meini hirion a chylchoedd cerrig – mae’r safleoedd hyn o’r Oes Efydd yn aml yn eiconig, ond maent yn enigmatig o hyd gan nad ydym yn gwybod beth oedd eu pwrpas na’u swyddogaeth. Bu nifer o awgrymiadau a dehongliadau gwahanol o’u swyddogaethau. Ymddengys bod rhai safleoedd yn gysylltiedig â safleoedd claddu, er na chredir mai dyma yw eu prif swyddogaeth. Mae safleoedd eraill yn alinio â lleoliad yr haul a’r lleuad adeg heuldroeon a chyhydnosau, felly awgrymwyd eu bod yn galendrau neu’n arsyllfeydd o ryw fath.

Mae’n amlwg y byddai adeiladu a chodi meini hirion a chylchoedd cerrig yn gofyn am dipyn o ymdrech gan nifer sylweddol o bobl, felly mae’n rhaid bod y safleoedd hyn yn lleoedd pwysig i’r cymunedau a’u creodd. Felly, awgrymir bod gan y safleoedd hyn swyddogaethau seremonïol neu ddefodol pwysig. Mae hefyd yn bosibl bod meini hirion yn farcwyr neu’n arwyddion ar y dirwedd a oedd yn marcio llwybrau neu fannau pwysig yn y dirwedd. Mae llawer o gylchoedd cerrig a meini hirion ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys maen hir Maen Llia ger Fan Llia, a chylch cerrig Cerrig Duon ar y Mynydd Du.

 

Carneddau crynion – safleoedd lle’r oedd pobl yr Oes Efydd yn claddu eu meirw yw’r rhain. O’u cymharu â chladdfeydd Neolithig, roedd yr Oes Efydd yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn yn hytrach na mannau claddu torfol neu gymunedol fel siambrau beddrod Neolithig. Yn ystod yr Oes Efydd, roedd claddedigaethau neu amlosgiadau unigol mewn llestri angladdol, yn cael eu rhoi mewn tyllau wedi’u leinio â cherrig, o’r enw cistfeini, a gloddiwyd mewn tir wedi’i glirio. Weithiau, roedd nwyddau claddu fel crochenwaith, arfau, gleiniau ac offrymau bwyd yn cael eu cynnwys hefyd. Wedi’r claddedigaethau neu’r amlosgiadau, roeddent yn cael eu gorchuddio â thwmpath mawr o gerrig neu bridd, gydag ymylfeini o’i gwmpas weithiau i ddal y twmpath a ffos o’i amgylch. Nid yw’n ymddangos bod pawb yn yr Oes Efydd wedi cyrraedd statws mor uchel nac wedi cael claddedigaeth amlwg, ac nid ydym yn gwybod pwy a gladdwyd yn y modd hwn neu beth a ddigwyddodd i bawb arall. Efallai bod carneddau crynion yn fannau claddu a choffa ar gyfer aelodau’r gymuned â statws uchel.

Er gwaethaf eu hoedran, mae carneddau o’r Oes Efydd yn weddol gyffredin mewn tirweddau uwchdirol fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac maent yn aml yn hawdd iawn eu gweld, hyd yn oed o edrych i fyny arnynt, gan eu bod yn aml mewn mannau amlwg ar ben bryniau. Mae coron o olion carneddau crynion o’r Oes Efydd ar rai o’r bryniau uchaf ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Pen-y-Fan, Corn Du a Fan-y-Big. Mae hyn yn awgrymu y gallai carneddau crynion fod wedi bod yn farcwyr tir pwysig hefyd, gan gynrychioli perchnogaeth, cymuned a hunaniaeth.

 

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2004) The Black Mountain – 7000 years of history Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1996) Prehistoric peoples their life and legacy Pen-y-bont ar Ogwr: D. Brown and Sons Ltd.

Cadw (2005) Caring for Prehistoric Funerary and Ritual Monuments Caerdydd: Cadw.

Leighton D (2012) The Western Bannau Brycheiniog. The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr Aberystwyth: Cambrian Printers.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited.