Cyfnod y Rhufeiniaid

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid dros Brydain yn 43AD. Yng Nghymru, daeth dyfodiad y Rhufeiniaid â’r Oes Haearn i ben.  Roedd gan Gymru lawer o adnoddau naturiol a oedd yn ddefnyddiol iawn i’r Rhufeiniaid, yn cynnwys copr ac aur.  Serch hynny, wynebodd y Rhufeiniaid gryn wrthwynebiad ffyrnig gan y llwythi niferus yng Nghymru. Bu’n rhaid disgwyl tan oddeutu 75-80AD cyn i’r Rhufeiniaid orchfygu Cymru, pan dderbyniwyd rheolaeth y Rhufeiniad.

Rheolwyd Cymru gan ddwy leng Rufeinig o dros 5,000 o ddynion wedi’u seilio mewn caerau mawr yng Nghaerllion a Chaer, gyda rhwydwaith o ffyrdd a safleoedd milwrol, gan gynnwys gwersylloedd a chaerau â milwyr ategol ledled y wlad, ac mae llawer o enghreifftiau o’r rhain wedi goroesi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Parhaodd rheolaeth Rufeinig o Gymru am dros 300 o flynyddoedd tan ddiwedd y 4edd ganrif OC.  Fodd bynnag, nid oedd dylanwad y Rhufeiniad mor gyflawn yng Nghymru ag yr oedd mewn mannau eraill ym Mhrydain; ni chafodd yr iaith frodorol ei disodli gan Ladin ac mae tystiolaeth yn awgrymu bod rhai bryngaerau Oes Haearn wedi parhau i gael eu meddiannu.

 

Mae llawer o’r gwersylloedd a’r caerau Rhufeinig a sefydlwyd i reoli’r ardal sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach, ynghyd â’r ffyrdd Rhufeinig sy’n igam-ogamu’r ardal, wedi’u cadw’n dda ac yn goroesi fel gwrthgloddiau sy’n sefyll o hyd.  Roedd rhai o’r strwythurau hyn, fel caerau Y Gaer (ger Aberhonddu) a Phen-y-gaer (ger y Bwlch) yn gaerau atodol wedi’u hadeiladu o gerrig, a adeiladwyd oddeutu 75CC yn wreiddiol fel strwythurau tywyrch a choed, ond a feddiannwyd am gannoedd o flynyddoedd â rhesi o farics, baddondy ac anheddiad sifiliaid cysylltiedig neu ficws.  Roedd y rhain wedi’u lleoli’n strategol i warchod ffyrdd a rheoli symudiad pobl.  I’r gwrthwyneb, roedd gwersylloedd cyrch neu ymarfer Rhufeinig yn strwythurau tywyrch a choed dros dro, a feddiannwyd am gyfnod byr yn unig tra’r oedd y milwyr Rhufeinig ar ymgyrch.  Mae sawl enghraifft o’r gwersylloedd dros dro hyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac maent i’w gweld yn amlwg ar ffurf strwythurau gwrthglawdd isel petryalog mawr, fel Y Pigwn ar Fynydd Bach yn Nhrecastell.

 

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Atelier Productions (1995) The Romans in Breconshire and Radnorshire. A Field Guide. Efrog: Quacks the Booklet Printers.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2004) The Black Mountain – 7000 years of history Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Jones N W a Hankinson R (2012) Pen-y-Gaer Vicus, Cwmdu, Powys: Excavation and survey 2005-2012 Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (1986) An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog): Hill-forts and Roman Remains Pt. 2: Prehistoric and Roman Monuments Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi.