Mae yna ddau o Fforymau Ymgynghori Ardal – y Dwyrain a’r Gorllewin, ac maent yn cynnwys 8 o aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a hyd at 20 o aelodau eraill i gynnwys cynrychiolaeth gytbwys o ddefnyddwyr mynediad hamdden, perchenogion tir, cynghorau cymuned a sefydliadau statudol yn ogystal â sefydliadau partner fel bo’n briodol. Dim ond un cynrychiolydd o bob sefydliad sy’n eistedd ar bob fforwm.
Mae’r fforymau’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ym mis Chwefror a mis Hydref fel arfer.
Mae’r tri fforwm:
- Yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r Awdurdod ar faterion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, cadwraeth a rheolaeth tir hamdden a chymdeithasol er mwyn i’r Awdurdod allu cyflawni’i swyddogaethau a’i ddyletswyddau statudol.
- Yn galluogi’r Awdurdod drwy ei bolisïau i ymgysylltu’n well â chymunedau a chyrff â buddiant ar draws y Parc Cenedlaethol.
- Yn cynghori’r Awdurdod ar:
– Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol;
– yr Adolygiad Blynyddol ‘r Cynlluniau Gweithredu Ardal;
– materion eraill y gellir eu cyfeirio at y Fforwm gan yr Awdurdod.
Nid cyfarfodydd cyhoeddus yw’r rhain, ond os oes gennych rywbeth y dymunwch ei godi, cysylltwch â’ch cynghorydd cymunedol lleol.
Sefydliadau ar Fforymau Ymgynghori Ardal.