Egwyddorion Arweiniol
Mae dwy egwyddor arweiniol i Fesur y Gymraeg, ac felly i’r modd y bydd y Awdurdod yn darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
- Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno.
Sut mae hyn yn effeithio ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?
Mae’r Awdurdod wedi derbyn Hysbysiad Cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n dweud sut y bydd disgwyl i’r Awdurdod ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau a rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym Mhowys.
Yn yr Hysbysiad Cydymffurfio, mae Safonau yn ymwneud â:
Cyflenwi Gwasanaeth – e.e. dros y ffôn, defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd, derbynfeydd yr Awdurdod, llythyron a dogfennau, gwasanaethau ar-lein.
Llunio Polisi – asesu effaith polisïau a phenderfyniadau’r Awdurdod ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a meddwl sut y gallai newid y polisïau a’r penderfyniadau i gael gwell canlyniad i’r Gymraeg.
Gweithredu – e.e. sicrhau fod gwybodaeth a gweithdrefnau mewnol ar gael i staff yn Gymraeg, a bod adnoddau a hyfforddiant ar gael i staff i’w helpu i weithio yn Gymraeg. Sicrhau fod gan staff y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Hybu – llunio strategaeth ar gyfer hybu’r Gymraeg a hwyluso’i defnydd yn yr ardal.
Cadw Cofnodion – y cofnodion y bydd angen i’r Cyngor eu cadw yn ymwneud â’r Safonau.
Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2024
Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2023
Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2022
Adroddiad Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg 2021
Adroddiad cydymffurfio Safonau Iaith Mehefin 2020
Adroddiad cydymffurfio Safonau’r Gymraeg 2017/2018
Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg 2020 – 2025