Mae’r rhan fwyaf o’r staff wedi’u lleoli ym mhencadlys gweinyddol y Parc yn Aberhonddu. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddwy brif adran: Adran Gwasanaethau Cynllunio a’r Adran Rheoli Cefn Gwlad a Thir.
Rhan hanfodol o waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw trafod â’r holl sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â rheoli’r Parc.
Caiff gwaith yr Awdurdod ei rannu’n ddau brif wasanaeth, dan arweiniad y Prif Weithredwr.
Gwasanaethau Cynllunio – mae’n cynnwys Rheoli Datblygiad, Strategaeth a Pholisi Cynllunio Gweithredol
Rheoli Cefn Gwlad a Thir – mae’n cynnwys Cadwraeth, Rheoli Adloniant, Gwasanaethau Ymwelwyr, Hawliau Tramwy, Wardeiniaid, Gwasanaethau Addysg a Rheoli Tir