Y Prif Weithredwr (Swyddog y Parc Cenedlaethol) yw John Cook ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros weithredu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn effeithlon o ddydd i ddydd.
Mae Swyddfa’r Prif Weithredwr yn ei gefnogi yn y rôl hon. Mae’n gyfrifol am:-
- Wasanaethau Corfforaethol – gan gynnwys Adnoddau Dynol, TG, Cyllid, Materion Cyfreithiol
- Y Wasg, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
- Gwasanaethau Pwyllgorau ac Aelodau – Gwasanaethau Rheoleiddio
Caiff y ddau swyddog canlynol eu cyflogi gan yr Awdurdod, yn rhan amser, i adrodd yn uniongyrchol i’r Aelodau ar agweddau ar weithrediad a pherfformiad yr Awdurdod.
- Swyddog Monitro – Mae’r swyddog monitro’n sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael ei dilyn ym mhob agwedd o waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
- Prif Swyddog Ariannol (Swyddog Adran 151) – Mae’r Prif Swyddog Ariannol yn monitro systemau ariannol Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’n gyfrifol am weinyddu materion ariannol yr Awdurdod yn briodol.