HYSBYSIR TRWY HYN, yn unol a Deddf Comisiwn Archwilio (Cymru) 2004, a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio, 2014 (fel y diwygiwyd 2018):
Ar Ddydd Llun 26 Gorffenaf i Ddydd Gwener 20 Awst 2021, gan gynnwys y ddau ddyddiad uchod, yn ystod oriau swyddfa arferol bob dydd, y gall unrhyw bersonau sydd a diddordeb wneud cais i’r Adran Gyllid, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HP i gael edrych ar y cyfrifon sydd i’w harchwilio ynghyd a’r holl lyfrau, gweithredoedd, cytundebau, biliau, talebau ac anfonebau sy’n ymwneud a hwy ac i wneud copiau o’r cyfan neu rannau o’r cyfrifon a’r dogfennau gysylltiol.
- Ar 23 Awst 2021, rhwng 9 y bore a 4 y prynhawn ac wedi hynny yn ei swyddfa hyd ddiwedd yr archwiliad, fe fydd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar gais unrhyw etholwr Llywodraeth Leol ar gyfer yr ardal y mae’r cyfrifon yn ymwneud a hi, yn rhoi i’r etholwr, neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd, gyfle i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfryw gyfrifan a gall unrhyw etholwr neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd ymddangos gerbron yr Archwilydd Cyffredinol i gynnig gwrthwynebiadau i unrhyw un o’r cyfrifon.
- a) ynghylch unrhyw fater y gallai’r Archwilydd Cyffredinol weithredu arnynt o dan Adran 32 Deddf Comisiwn Archwilio (Cymru) 2004; neu
- b) ynghylch unrhyw fater y gallai’r Archwilydd Cyffredinol baratoi adroddiad arno er lles y cyhoedd.
- Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad, yn ôl y diffiniad yn (2) uchod, oni roddir rhybudd ysgrifenedig am y gwrthwynebiad arfaethedig a’r sail y gwneir arno i bob un o’r canlynol cyn 23 Awst 2021.
Adrian Crompton Catherine Mealing-Jones
Archwilydd Cyffredinol Cymru Prif Weithredwr
Swyddfa Archwilio Cymru Swyddfa’r Parc Cenedlaethol 24 Heol y Gadeirlan Plas y Ffynnon
Caerdydd Ffordd Cambrian
CF11 9LJ Aberhonddu
LD3 7HP
DYDDIEDIG 12 Gorffenaf 2021
Treiliau yr Aelodau
Mae manylion y treiliau a dalwyd i Aelodau’r Awdurdod yn 2020/21 yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod hefyd yn www.bannaubrycheiniog.org pan fydd yr archwiliad ar ben.