Mae glaswelltiroedd calchaidd ond i’w cael lle bo’r calchfaen yn brigo fel band tenau ar draws y Parc Cenedlaethol ac ar ffurf brigiadau arunig mewn mannau eraill. Cânt eu rheoli fel arfer fel tir pori i gynnal defaid, gwartheg neu geffylau weithiau. Mae safleoedd glaswelltiroedd calchaidd i’w cael mewn lleoliadau caeëdig ac agored ac o fewn y Parc Cenedlaethol, maent hefyd i’w cael o amgylch ardaloedd o galchbalmant. Mae’r gorchudd o laswelltir calchaidd isel wedi dirywio’n sylweddol o ran maint yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, yn enwedig gan fod ardaloedd isel wedi’u haddasu gan amaethyddiaeth i fod yn fwy cynhyrchiol. Mae hyn wedi galluogi mwy o anifeiliaid i bori, ond mae wedi eithrio llawer o rywogaethau o flodau gwyllt hefyd.
Mae glaswelltiroedd calchaidd isel yn cynnig fflora cyfoethog iawn yn cynnwys llawer o rywogaethau prin ac unigryw ar lefel genedlaethol tra eu bod hefyd yn cynnal adar a glöynnod byw fel y glesyn cyffredin. Mae’r ddraenen wen, y ddraenen ddu neu’r prysgwydd eithin i’w cael yn aml ar laswelltiroedd calchaidd neu o’u hamgylch a gall hyn annog mwy o fywyd gwyllt drwy gynnig cysgod ar gyfer infertebratau, ymlusgiaid ac adar.
Am ragor o wybodaeth, gweler:
Bywyd trychfilod: Canllawiau ar gael ar gyfer rheoli glaswelltiroedd calchaidd ar gyfer infertebratau mewn lleoliadau Iseldir ac Ucheldir.
Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd glaswelltir a thir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.