Wrth ystyried eich cynnig ar gyfer datblygu, mae’n bwysig canfod a oes rhywogaethau a warchodir yn bresennol neu yn y cyffiniau, ac a allent gael eu heffeithio gan eich datblygiad arfaethedig. Tarwch olwg ar y rhestr wirio i gael arweiniad ar ba rywogaethau a allai fod yn bresennol mewn cynefinoedd penodol a phryd mae’n bosib y bydd rhaid cynnal arolygon.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut caiff rhywogaethau a warchodir eu hystyried yn y broses gynllunio yng Canllaw Cynlluio Atodol Bioamrywiaeth a Datblygiad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu canllawiau ar arolygon rhywogaethau Ewropeaidd a warchodir a chanllawiau ar gomisiynu arolwg ecolegol. Gallwch weld rhestr o arolygwyr ecolegol yng Nghyfeiriadur Aelodau y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
Os oes rhywogaethau gwarchodedig yn bresennol, nid yw hynny’n golygu na ellir bwrw ymlaen â’r datblygiad, ond rhaid bod y datblygwr wedi cael trwydded i wneud y gwaith. Gallwch gael gwybodaeth am drwyddedau’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Trwyddedau Rhywogaethau a Warchodir yn y DU a Thrwyddedau Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.
Gall yr Heddlu ymchwilio i achosion lle torrwyd y gyfraith yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir er mwyn penderfynu a oes trosedd wedi’i chyflawni. Darllenwch fwy am waith Heddlu Dyfed-Powys ym maes troseddau bywyd gwyllt.
Rhywogaethau â blaenoriaeth
Gweler yr adran ar gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth.
Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i ddysgu mwy am rywogaethau penodol neu grwpiau o anifeiliaid.