Ystlumod a safleoedd clwydo

I gael gwybodaeth gyffredinol am ystlumod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod (BCT). Hefyd, ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, gallwch gael gwybodaeth am y canlynol:

Os yw cynigion datblygu yn mynd i effeithio ar strwythurau neu goed lle mae ystlumod o bosib yn bresennol, mae’n hanfodol bod yr arolygon ystlumod yn ddigon manwl i gadarnhau presenoldeb neu absenoldeb ystlumod. Er bod rhai yn gweld hyn fel oedi a chostau pellach fel rhan o’r cais cynllunio, mae’n llawer gwell gwneud y gwaith manwl hwn cyn dechrau adeiladu. Os bydd ystlumod yn cael eu canfon yn ystod y gwaith adeiladu, rhaid i’r gwaith stopio ar unwaith a gallai hyn fod yn llawer mwy costus na chynnal arolwg manwl.

Anaml iawn y bydd presenoldeb ystlumod yn golygu na all datblygiad fynd yn ei flaen, ond bydd yn debygol o effeithio ar y datblygiad. Mae’n bosibl y bydd angen addasu amseriad y gwaith fel na fydd yn tarfu ar yr ystlumod ar adegau pwysig ac hefyd sicrhau bod yna ddarpariaeth i’r ystlumod allu parhau i ddefnyddio’r adeilad. Efallai hefyd y bydd angen addasu’r cynllun i ddarparu ar gyfer rhywogaeth yr ystlumod.

Dylai datblygwyr ddarllen Nodyn Cyngor Cynllunio 17: Ystlumod, adeiladau a datblygu cyn cyflwyno ceisiadau a allai effeithio ar ystlumod.

Gall deiliaid tŷ hefyd ddefnyddio’r siart llif rhestr wirio i gael cyngor ynghylch pryd fydd angen gwneud arolwg ystlumod.

Safleoedd lle bydd angen arolwg: Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn pennu a oes angen arolwg ystlumod ar ddatblygiad, oherwydd mae’n ofyniad cyfreithiol i’r awdurdod cynllunio asesu’r effaith bosib ar ystlumod. Dylid nodi’r angen am arolwg yn gynnar yn y broses ddylunio a chynllunio. Cofiwch, oherwydd bod ystlumod yn fwy bywiog yn ystod misoedd yr haf, mae’n debyg y bydd rhaid cynnal arolygon ar adegau penodol o’r flwyddyn. Dylech gynllunio i gynnal arolygon ystlumod rhwng mis Mai a chanol mis Medi. 

Mae English Nature (Natural England bellach) wedi cynhyrchu canllawiau camau lliniaru ar gyfer ystlumod. Ond cofiwch fod y trefniadau trwyddedu yng Nghymru yn wahanol i’r rhai yn Lloegr.

Rhagor o wybodaeth am ystlumod yn y Parc Cenedlaethol.