Mae brochfeydd moch daear yn aml i’w gweld mewn coetiroedd, ar ymylon coetiroedd ac ar hyd argloddiau rheilffordd ac ymylon y ffordd. Mae gwarchodaeth y frochfa’n ymestyn gryn dipyn y tu hwnt i’r hyn sydd i’w weld ar yr wyneb ac mae’n bosibl y bydd angen addasu gwaith adeiladu i leihau’r effaith ar y moch daear yn y frochfa. Mae moch daear yn anifeiliaid sy’n hoff o’u harfer, ac maen nhw’n chwilota am fwyd ac yn crwydro ar hyd llwybrau y maen nhw’n eu defnyddio’n rheolaidd. Gallai’r llwybrau hyn groesi safle datblygu arfaethedig hefyd, felly mae’n bosibl hefyd y byddai angen amodau i ddarparu ar gyfer moch daear yno, neu eu cadw allan o’r safle am gyfnod dros dro. Gallai fod angen cael trwydded i hyn hefyd.
Mwy o wybodaeth am Moch daear a datblygu.