Mae hawlfraint y llun yn perthyn i Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
Archeoleg yw’r astudiaeth o’r gorffennol yn seiliedig ar y gweddillion ffisegol a adawyd ar ôl. Gall unrhyw beth mae pobl y gorffennol wedi gadael ar eu holau ddweud rhywbeth wrthym am y gorffennol a bywydau ein hynafiaid. Gall y gweddillion hyn fod wedi’u claddu yn y ddaear neu gallant fod yn sefyll hyd heddiw, fel gwrthgloddiau neu adeiladau sydd wedi goroesi. Gallant gynnwys gwrthrychau bychan iawn, fel ceiniogau neu ddarn o grochenwaith sydd wedi torri, neu gallant fod yn fawr, fel bryngaer neu gastell, neu hyd yn oed gweddillion planhigion ac anifeiliaid.
Mae archeoleg yn cynnwys holl hanes dyn, o’r dynion cyntaf ar y ddaear hyd at heddiw, ac mae llawer mwy iddi na chloddio tyllau. Mae llawer o’r safleoedd archeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn goroesi fel adeiladau ffisegol, gweddillion ar y tir neu wrthgloddiau (cilcynnau a phantiau yn y tir) sydd dal i’w gweld heddiw.
Pam fod archeoleg yn bwysig?
Mae’r archeoleg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arbennig a phwysig iawn.
- Mae’n rhoi gwybodaeth am y gorffennol i ni ac yn adrodd hanes ein hynafiaid a’u bywydau.
- Mae’n gwneud cyfraniad pwysig at nodweddion a thirwedd arbennig y Parc Cenedlaethol, ac yn dod â straeon y dirwedd yn fyw.
- Mae safleoedd archeolegol yn cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau lleol a phobl o bell gan eu bod yn helpu i greu cymeriad. Yn aml, bydd ganddynt gysylltiadau â phobl, atgofion, credoau neu ddigwyddiadau.
- Mae pobl yn hoffi defnyddio safleoedd archeolegol yn eu hamser hamdden, weithiau wrth wneud ymdrech i ddysgu am y gorffennol ac ymweld â safle penodol; ond hefyd fel cefndir i weithgareddau eraill, fel mynd â’r ci am dro.
- Hefyd, mae safleoedd archeolegol yn bwysig oherwydd eu harwyddocâd ecolegol.