Beth yw’r Rhestr Leol?
Rhestr Leol yw rhestr eiddo o bob ased treftadaeth, gan gynnwys adeiladau, safleoedd archeolegol, henebion, llefydd lle honnir bod digwyddiadau hanesyddol lleol pwysig wedi digwydd yno, a mannau agored nad ydynt yn ymddangos ar unrhyw restrau na chofrestrau lleol, ond eu bod yn bwysig i gymunedau lleol ac i’r llefydd rydyn ni’n byw ynddynt. Mae treftadaeth leol yn rhan bwysig o’n bywydau arferol, gan gyfrannu at ansawdd ein bywydau, ein hunaniaeth a’n teimlad o gymuned. Mae’r Rhestr Leol yn helpu i ddathlu treftadaeth leol, gan amlygu ei phwysigrwydd a sicrhau ei bod yn cael ei gwerthfawrogi. Mae’n galluogi cymunedau lleol i nodi’n ffurfiol yr asedau treftadaeth sy’n bwysig iddyn nhw, y maen nhw’n eu hystyried yn werthfawr, ac y maen nhw am eu gweld yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu. Mae’r Rhestr Leol yn cynrychioli’r dreftadaeth y mae’r gymuned leol yn ei thrysori ond nad yw’n cydymffurfio â’r meini prawf ar gyfer dynodiad cenedlaethol.
Pwy sy’n cynhyrchu rhestr leol?
Mae rhestri lleol yn cael eu cynhyrchu gan awdurdodau a chymunedau lleol sy’n cyd-weithio er mwyn nodi a chydnabod yn ffurfiol asedau treftadaeth â phwysigrwydd lleol.
Pam cynhyrchu rhestr leol?
Mae cynhyrchu Rhestr Leol yn galluogi cymunedau lleol i leisio’u barn, ac yn helpu i nodi a chydnabod yn ffurfiol yr asedau treftadaeth sy’n bwysig i’r ardal leol a’i phobl.
Mae Rhestri Lleol yn dathlu treftadaeth leol ac yn sicrhau ei bod yn cael ei gwerthfawrogi.
Mae Rhestri Lleol yn sicrhau ein bod yn cydnabod bod yna fwy i’n treftadaeth nag Adeiladau Rhestredig, Henebion Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth, a Gerddi a Pharciau Rhestredig dynodedig sydd â phwysigrwydd cenedlaethol.
Mae’r Rhestr Leol yn gallu amddiffyn sawl agwedd o’r amgylchedd hanesyddol a fyddai fel arall heb unrhyw fath o gydnabyddiaeth neu amddiffyniad ffurfiol. Mae’n gwneud hyn drwy atgyfnerthu’r awyrgylch a’r nodweddion lleol unigryw ac yn sicrhau bod unrhyw newid a datblygiad yn parchu nodweddion arbennig yr ardal a’r asedau treftadaeth a werthfawrogir gan gymunedau lleol.
Mae Rhestri Lleol yn sicrhau bod gwerth ein hasedau treftadaeth yn mynd yn bellach na’r broses cynllunio a bod treftadaeth yn ennill ei lle cyfiawn fel canolbwynt beth sy’n gwneud ein cymunedau yn llefydd diddorol a dymunol i fyw ynddynt.
Dydy bod ar restr leol ddim yn rhoi unrhyw amddiffyniad statudol, ond mae’n annog perchennog safle neu adeilad, a’r gymuned leol, i gadw ei nodweddion arbennig a helpu i sicrhau ei oroesiad tymor hir.
Sut caiff ased treftadaeth ei gynnwys ar y rhestr leol?
Bydd cymunedau lleol yn rhoi cyngor ar ba asedau treftadaeth sy’n cael eu cynnwys ar y Rhestr Leol ar gyfer ei hardal nhw, a bydd pobl leol yn gallu enwebu asedau treftadaeth y hoffen nhw eu gweld ar y Rhestr. Dim ond os yw’r ased treftadaeth yn bodloni’r meini prawf canlynol y bydd modd iddo ymddangos ar y Rhestr Leol:
1. Diddordeb Hanesyddol
a) A yw hwn yn perthyn i agwedd bwysig o hanes cymdeithasol, crefyddol, gwleidyddol neu economeg leol?
b) A yw’n perthyn yn hanesyddol i nodwedd leol bwysig?
2. Perthynas Hanesyddol
a) A yw’n perthyn yn agos at: bobl enwog lleol, digwyddiadau hanesyddol lleol, neu ddatblygiadau cymunedol neu gymdeithasol mawr (rhaid iddo fod yn adnabyddus)?
b) A yw’n perthyn yn agos at unrhyw safle neu adeilad sydd ag amddiffyniad statudol?
3. Rhinweddau Pensaernïol a Dylunio
a) A yw’r adeilad/strwythur/parc neu ardd sy’n goroesi yn waith pensaer neu ddylunydd sy’n nodweddu hanes neu ddyluniad lleol neu ranbarthol?
b) A yw’n dangos oed, arddull neu nodweddion nodedig sy’n perthyn i’r ardal?
c) Ydy’r dyluniad pensaernïol, y manylion a’r deunyddiau adeiladu yn ychwanegu at awyrgylch lleol yr ardal?
4. Goroesi
a) A yw’n parhau i fod mewn ffurf gyflawn ac adnabyddadwy?
b) A yw wedi cadw ei nodweddion a’i gynllun hanesyddol?
c) A yw’n cynrychioli elfen bwysig yn natblygiad yr ardal?
5. Rhinweddau trefwedd
a) A yw’n cynrychioli ardal bwysig o harddwch yn lleol? Er enghraifft a yw’n cael effaith weledol ddiddorol mewn ardal neu a yw’n dirnod?
b) A yw’n adeilad nodedig ar ffordd bwysig i mewn i’r ardal, sy’n creu golygfa neu’n cyfrannu at y gorwel? A yw’n sefyll ar gornel neu’n creu canolbwynt yn y drefwedd?
6. Bioamrywiaeth
a) Adeiladau sy’n darparu cynefin/amddiffynfa ac yn annog bioamrywiaeth.
Rhestri Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cymeradwyo Rhestr Leol Aberhonddu a Thalgarth ynghyd â Rhestr Leol y Gelli.
Gallwch weld Rhestr Leol Aberhonddu a Thalgarth sydd wedi’i chymeradwyo yma.
Gallwch weld Rhestr Leol y Gelli sydd wedi’i chymeradwyo yma.
Ar hyn o bryd mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dechrau paratoi drafft cyntaf Rhestr Leol Crucywel. Ar ôl i’r drafft cyntaf gael ei gynhyrchu bydd modd i gymunedau lleol wneud sylwadau ar y drafft hwn ac enwebu asedau treftadaeth eraill y hoffen nhw eu gweld ar eu Rhestr Leol. Wedi iddyn nhw gael eu cwblhau bydd pob Rhestr Leol sydd wedi’u cynhyrchu i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gael i’r cyhoedd.
Beth yw effaith rhestri lleol?
Er nad oes yna reoliadau statudol uniongyrchol ychwanegol dros eiddo sydd ar y Rhestr Leol bydd yr Awdurdod yn annog perchnogion i gadw’r nodweddion arbennig sydd wedi arwain at eu cynnwys ar y rhestr ac yn hybu adferiad lle ceir tystiolaeth dda.
Yn ôl y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol mae Treftadaeth Ddiwylliannol yn cael ei gwarchod gan Bolisi 18.