Beth yw Craffu?
Mae’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn diffinio craffu fel:
“…y gweithgaredd gan sefydliad neu swyddfa sydd wedi’u hethol neu eu dewis yn archwilio a monitro pob gweithgaredd neu rai o weithgareddau corff sector cyhoeddus gyda’r nod o wella safon gwasanaethau cyhoeddus.”
Gweithiodd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro gyda’i gilydd i ddatblygu’r broses graffu, a ariannwyd drwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae craffu yn gallu bod yn her mewn sefydliad sydd heb weithrediaeth (grŵp penderfynu ar wahân) ond rydym wedi cynnwys arbenigwyr allanol, y cyhoedd a swyddogion adrannau eraill y Parc i roi gwrthrychedd.
Beth ydym ni wedi craffu arno hyd yn hyn?
Cynhaliwyd dau adolygiad peilot fel rhan o’r prosiect craffu, gallwch weld y rheini ac adroddiadau terfynol dilynol yma:
Adroddiad Craffu Cronfa Datblygu Cynaliadwy
Adroddiad Craffu Hawliau Tramwy
Atodiadau Adroddiad Craffu Hawliau Tramwy
Adroddiad Craffu – Lleihau Difrod i Amgylchedd y Parc
Cymunedau – Ysbrydoli a Buddion
Mae’r adroddiad prosiect terfynol ar gael hefyd. Cysylltwch â’r swyddogion isod os ydych am weld unrhyw un o’r atodiadau.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio’r broses graffu i wneud astudiaethau manwl ar agweddau o’i waith, gan gynnwys aelodau, swyddogion, tystion arbenigol, sefydliadau eraill ac aelodau o’r cyhoedd. Bydd yr astudiaethau hyn yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau, llunio polisi yn y dyfodol, ac amlygu gwaith yr Awdurdod. Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo Polisi Craffu fel fframwaith ar gyfer ei waith craffu yn y dyfodol ac mae siart llif yn egluro’r broses.
Wrth wneud hyn, bydd yr Awdurdod yn defnyddio pedair egwyddor craffu ac yn eu gweithredu:
- Darparu her cyfaill beirniadol i gyflawni gwasanaethau
- Ystyried barn a phryderon y cyhoedd a’u cymunedau
- Gweithredir gan aelodau a swyddogion â meddylfryd annibynol sy’n arwain a meddu ar y broses craffu
- Cymell gwella cyflawni gwasanaethau
Beth fydd yn cael ei graffu arno?
Bob blwyddyn mae’n rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi ei amcanion gwella, sy’n canolbwyntio ar wahanol agweddau o’i waith y mae’n teimlo sy’n hynod o bwysig. Mae’r Awdurdod yn cael ei archwilio ar y rhain gan Swyddfa Archwilio Cymru sy’n adrodd ar y cynnydd mewn Adroddiad Gwella Blynyddol. Gallwch weld yr adroddiad diweddaraf yma
Mae’r Awdurdod wedi penderfynu defnyddio’r broses graffu i edrych yn fanwl ar ddau o’i amcanion gwella bob blwyddyn. Un o’r rhain bydd adolygiad yn edrych nôl ar amcan o’r flwyddyn flaenorol a bydd y llall yn edrych ar amcan o’r flwyddyn hon. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 cafodd y ddau amcan hyn eu dewis:
1) Lleihau difrod i amgylchedd y Parc, a’r dystiolaeth ar gyfer hyn bydd:
- Cyflawni prosiectau ymarferol allweddol sy’n lleddfu effeithiau negyddol.
- Sefydlu data gwaelodlin er mwyn deall sefyllfa monitro’r Parc. (Bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth fwy trylwyr a gwyddonol o gyflwr monitro amgylchedd y Parc ar hyn o bryd).
2) Cymunedau yn adnabod buddion eu milltir sgwâr, ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt.
Gan ddechrau ym mis Ionawr eleni, dechreuon ni ar y broses o gyhoeddi rhestr o’n hamcanion gwella ar y tudalennau hyn a gofyn i’r cyhoedd ‘bleidleisio’ ar ba ddau yr oedden nhw’n teimlo y dylai’r Awdurdod graffu arnynt y flwyddyn honno. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystyried pob safbwynt wrth wneud eu penderfyniad terfynol ar y ddau bwnc.
Sut bydd y Craffu yn cael ei wneud?
Bydd yr Awdurdod yn penodi Panel Craffu ar gyfer pob adolygiad craffu a fydd yn cynnwys:
Hyd at chwe aelod Awdurdod y Parc Cenedlaethol (Pwy yw’r Aelodau?)
- Swyddog o adran wahanol i’r un sy’n cael ei chraffu arni
- Cynrychiolydd gwahanol i roi gwrthrychedd – gall fod yn gynrychiolydd o sefydliad sy’n bartner, Parc Cenedlaethol arall, arbenigwr yn y pwnc sy’n cael ei graffu arno, neu aelod o’r cyhoedd
Bydd y Panel yn cynllunio’r adolygiad, gweld pa wybodaeth sydd gan yr Awdurdod eisoes, a nodi pa dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt. Byddant yn gosod cwestiynau allweddol ac yn ceisio eu hateb drwy gasglu gwybodaeth drwy un neu fwy o’r dulliau hyn:
Ymchwilio i adroddiadau, data a gwybodaeth arall sy’n bodoli eisoes
- Cyfweld swyddogion
- Cyfweliadau ar y ffôn neu wyneb yn wyneb â’r cyhoedd
- Cyfweliadau ar y ffôn neu wyneb yn wyneb â thystion arbenigol
- Holiaduron
- Gwrandawiadau
- Grwpiau Ffocws
- Defnyddio’r wefan i wahodd pobl i wneud sylwadau
- Cyfarfodydd gyda grwpiau neu fforymau sy’n bodoli eisoes (ee. Cynghorau Tref a Chymunedol, Fforymau Ymgynghori Ardal)
- Ymweliadau â safle
Wedyn, bydd y panel yn ysgrifennu adroddiad ac yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Yna, caiff yr argymhellion eu cyflwyno i’r Awdurdod llawn a bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn monitro’r cynllun gweithredu hwn a bydd pob adroddiad i’w weld drwy’r Calendr Pwyllgorau lle mae pob agenda ar gael. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r rhain ar y tudalennau craffu ar y wefan.
Sut galla i gymryd rhan?
Ein bwriad ydy diweddaru’r tudalennau hyn gyda chynnydd am yr adolygiadau craffu sydd ar waith gyda gwybodaeth ar sut gallwch chi gymryd rhan. Mae hyn yn debygol o fod drwy un o’r ffyrdd canlynol:
- Ymateb i holiadur yn y wasg neu ar ein gwefan
- Drwy broses ymgynghori a fydd yn cael ei chynnal ar y cyd â chynghorau tref a chymunedol neu grwpiau cymunedol eraill
- Derbyn gwahoddiad i fod yn dyst arbenigol neu’n rhan o grŵp ffocws neu wrandawiad os oes gennych chi arbenigedd yn y maes dan sylw
- Rhoi gwybod i ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws ar yr ardal o wasanaeth
- Rhoi gwybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl am y maes dan sylw drwy e-bost, galwad ffôn neu ar bapur
- Drwy gysylltu â’r Swyddog Craffu, Lora Davies, dros y ffôn 01874 624437 neu anfon e-bost at Stephanie Davies (Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd) ar 01874 620400 neu stephanie.davies@breconbeacons.org
Os bydd yn rhaid i chi fynychu gwrandawiad craffu, rydym wedi paratoi canllawiau fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Cylchlythyrau
Rydym yn cyhoeddi Cylchlythyrau rheolaidd yn sôn am y newyddion diweddaraf a datblygiadau craffu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gallwch ddod o hyd i’r rhifyn diweddaraf, sef mis Hydref 2013, yma.