Siarter Ymwelwyr

5 ffordd i garu’r Parc Cenedlaethol      

Yn ddiweddar rydym wedi datblygu siarter ymwelwyr er mwyn addysgu ymwelwyr am arferion gorau ac i godi mwy o ymwybyddiaeth a chreu a marchnata negeseuon cyffredin ond cynnil. Bydd y rhain yn gwneud i ymwelwyr ymddwyn mewn ffordd gynaliadwy tra maent ar eu gwyliau yma. Mae posib i chi gefnogi’r ymgyrch hon mewn sawl ffordd, drwy stocio’r daflen “5 ffordd i garu Bannau Brycheiniog” a deunyddiau marchnata eraill i’ch ymwelwyr eu darllen, a/neu drwy argraffu eich posteri personol eich hun i ddangos beth rydych chi wedi bod yn ei wneud yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cliciwch yma.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, cwestiynau neu sylwadau, cofiwch gysylltu â’n Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy, Andrew Williams, dros y ffôn ar 01874 620476 neu ar e-bost andrew.williams@beacons-npa.gov.uk 

Lawrlwytho Siarter Ymwelwyr