Castell y Gelli

Unedau Dechrau Mân-werthu – Ymddiriedolaeth Castell y Gelli
Grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy o £11,000

Cafodd Ymddiriedolaeth Castell y Gelli ei ffurfio yn 2011 er mwyn prynu Castell y Gelli, safle sy’n cynnwys Plasty Castell y Gelli, rhestredig Gradd I, Heneb Rhestredig, amryw o adeiladau allanol a gerddi cofrestredig.

Mae’r prosiect adnewyddu £6.5 miliwn yn cynnwys mynediad at ben y tŵr Normanaidd, to newydd ar y plasty, oriel arddangos, gofod addysg ac ystafelloedd hyblyg, aml ddefnydd trwyddo. Bydd y porth hynafol yn cael ei ail agor ac yn ail gysylltu’r dref a thiroedd y Castell. Bydd sgiliau adeiladu traddodiadol yn cael eu dysgu yn y tiroedd a bydd caffi yn yr hen gerbyty. Bydd incwm a ddaw o logi preifat yn cael ei ddefnyddio ar gynnal a chadw, a llu o ddefnydd cymunedol.

Roedd gwaith adeiladu ar Gastell y Gelli’n parhau gydol 2021.  Er bod oedi sylweddol wedi bod ar y prosiect, disgwylir y bydd y prif waith, a’r gwaith sy’n cael ei ariannu o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy i uwchraddio pum uned mân-werthu ar y safle, wedi’i orffen yn gynnar yn 2022.

Bydd y siopau bach hyn yn cael cynnig i fusnesau dechrau lleol (megis Bobbin Sisters yn y llun) gan roi cyfle i entrepreneuriaid lleol rentu gofod am bris fforddiadwy er mwyn dechrau eu busnes. Mae’r siopau unigryw hyn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau neu grefftwyr sydd angen rhent isel a llawer o bobl yn dod heibio ar hyd lôn ag wyneb o gerrig crynion, llawn cymeriad. Llwyddodd y siopau i feithrin nifer o fusnesau yng Nghastell y Gelli sydd erbyn hyn wedi symud i eiddo mwy yn y dref. Dechreuodd busnes lleol, Eighteen Rabbit, er enghraifft, eu busnes mewnforio Masnach Deg ar lein, cyn i’w busnes yn siop yng Nghastell y Gelli, ar rent isel iawn, dyfu yn ystod y ddwy flynedd yr oedd yno, digon i symud i symud i siop fwy yng nghanol y dref. Felly hefyd, cychwynnodd busnes  Beer Revolution yn un o’r siopau bach yn gwerthu cwrw arbenigol a lleol ac yna symud i’r dref.