Muddy Care

Grant o £9,180 o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy dros ddwy flynedd.

Cwmni Buddiannau Cymunedol yn Nhalgarth yw Muddy Care, yn darparu addysg awyr agored, ecotherapi ac chefnogaeth ailsefydlu tymor hir i bobl gyda chyflyrau meddygol cronig, ac erbyn hyn Covid Hir. Mae’r rhaglenni’n canolbwyntio ar y person, yn talu sylw i anghenion emosiynol a seicolegol yn ogystal â rhai corfforol, yn cefnogi datblygiad personol.

Cefnogodd grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy brosiect peilot er mwyn asesu a dangos effeithiolrwydd y dull hwn, gyda thua 12 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hamdden a gweithdai yn y Parc Cenedlaethol a thu hwnt. Roedd y sesiynau’n cynnwys cyfeiriannu sylfaenol, cerdded ac archwilio, iechyd a hunan ofal, profi beiciau trydan ayb.  Cynlluniwyd cynnal y peilot dros naw mis, ond, oherwydd Covid, bu’n rhaid ei redeg dros ddwy flynedd, gyda manteision annisgwyl.  Cafodd y fformat ei addasu a’i ail ddylunio gyda chyfraniad llawn y cyfranogwyr, gan sicrhau eu bod yn dal i dderbyn cefnogaeth yn ddiogel mewn amgylchiadau cyfnewidiol – y cyfan yn ddysgu defnyddiol.

Dangosodd yr arfarniad cychwynnol:

  • erbyn haf 2021, roedd dros hanner y cyfranogwyr wedi gostwng eu meddyginiaeth o dros 50% ers dechrau Muddy Care, a bod llai o ail waelu.
  • mae pob un o’r cyfranogwyr wedi dangos gwelliant cyson yn eu llesiant yn gyffredinol
  • ni wnaeth neb adael – roedd pob un a gafodd ei recriwtio fis Tachwedd 2019 yn dal yn mynychu sesiynau.
  • mae busnesau lleol wedi elwa gyda e.e. llogi beiciau o Drover Cycles, ymweliadau â chaffis a bwytai.
  • mae gan y rhai oedd yn cymryd rhan lawer gwell dealltwriaeth a gwybodaeth o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – ymweld ac archwilio ardaloedd llai cyfarwydd.

Mae’r adborth oddi wrth y cyfranogwyr yn bositif iawn:

Pan ddechreuais gyntaf gyda Muddy Care nid byw oeddwn i ond bodoli. Yr unig adegau oeddwn yn gadael y tŷ oedd i gadw apwyntiadau ysbyty ac roedd gen i eithaf tipyn ohonyn nhw. Roeddwn i’n dal yn dod i delerau gyda’m diagnosis, ychydig iawn o gefnogaeth oedd gen i a dim bywyd cymdeithasol. Mae Muddy Care wedi newid fy mywyd. Rwyf wedi gwneud pethau anhygoel nad oeddwn i erioed wedi meddwl eu bod yn bosibl.

Pan mae gennych chi gyflwr iechyd cronig mae’ch bywyd yn mynd yn llai, yn dywyllach, yn fwy pryderus. Mae mynd allan i fyd natur yn gallu bod yn heriol ac yn aml mae eisiau dal ati a bod yn ddewr. Mae yna gymaint o fanteision iechyd, meddyliol, corfforol ac  ysbrydol o fod y tu allan ac yn cysylltu â natur a’r awyr agored – hyd yn oed gan wybod fod yna cymaint o rwystrau. Mae Muddy Care yn torri trwy’r rhain wrth ddarparu’r gallu, yr ysgogiad a’r atebolrwydd angenrheidiol.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau Muddy Care wedi dangos i mi nad yw cael cyflyrau cronig yn golygu eich bod yn gorfod stopio gwneud pethau.  Maen nhw’n gallu cael eu haddasu i’w gwneud mewn ffordd wahanol.