Menter dros Gadwraeth Natur Cymru

Dod i adnabod eich cymdogion – Menter dros Gadwraeth Natur Cymru

Grant o £8,252 o Gronfa Datblygu Cynaliadwy dros ddwy flynedd.

Sefydlwyd y Fenter yn 2018 fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcanion yw:

  • hyrwyddo cadwraeth, amddiffyn a gwella amgylchedd naturiol Cymru
  • gwella addysg y cyhoedd ynghylch cadwraeth, amddiffyn a gwella amgylchedd naturiol Cymru

Mae’r prosiect hwn yn anelu at gynnwys y gymuned leol mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan ganolbwyntio ar hyrwyddo a deall, cofnodi a gofalu, y rhywogaethau yn yr ardal.  Cafodd offer megis maglau gwyfynod a chanfodyddion ystlumod eu prynu at ddefnydd yn y tymor hir.

Effeithiodd cyfyngiadau Covid yn ddifrifol ar y prosiect hwn – gohiriwyd teithiau cerdded a gweithgaredd eraill am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf. Er gwaethaf hynny, aeth y gwaith yn ei flaen mewn gwahanol ffyrdd. Cynhaliwyd cyrchoedd gyda grwpiau teuluol mewn partneriaeth â llyfrgell Gwaun Cae Gurwen. Llofnododd 57 o bobl i dderbyn taflen newyddion y prosiect , gyda phob rhifyn yn derbyn ymateb da a chwestiynau / sylwadau e-bost – darparodd pobl leol eu hanesion a lluniau eu hunain.

Rhoddwyd maglau gwyfynod a chanfodyddion ystlumod (a phecynnau hyfforddi) ar fenthyg i tua 15 o deuluoedd – sydd wedi dychwelyd manylion / adnabyddiaeth o’r rhywogaethau a ganfuwyd.  Mae’r rhain yn cael eu logio a’u cyflwyno i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth. Mae gan y Fenter dros Gadwraeth Natur Cymru gysylltiadau agos gyda Chyngor Tref Cwmaman ac mae ganddi broffil uchel yn yr ardal – amhrisiadwy mewn hyrwyddo ymgysylltiad. Nawr bod yr offer wedi’i brynu, bydd y prosiect a’r gwaith ymgysylltu’n parhau.

Mae cymryd rhan wedi newid bywydau rhai o’r bobl leol: “Yn 2016 cefais ddiagnosis o gancr ond diolch i’r drefn mi ddois trwy hynny. Ond wrth i mi gael fy iechyd yn ôl, clywodd fy ngŵr fod ganddo ef gancr hefyd ac yn anffodus bu farw o fewn tri mis o’r diagnosis. Cefais fy llorio, doedd dim ystyr i fywyd. Roedd popeth yn ormod o ymdrech ac fe gafodd hyd yn oed fy ngardd annwyl ei hesgeuluso gan nad oedd gen i ddiddordeb ynddi neu’n wir, mewn unrhyw beth arall. Newidiodd hynny i gyd pan gymerais ran mewn gwirfoddoli i’r Fenter.

Ers hynny rwyf wedi bod ar deithiau cerdded ystlumod ac wedi crwydro’r cefn gwlad o gwmpas yn cadw llygad ar yr wybedog gefnddu, ymysg pethau eraill. Yn ystod un o’r cyrchoedd, gwelais gog fyw am y tro cyntaf yn fy oes.  Byddaf wastad yn cofio sefyll ar ochr y bryn gyda gweddill y grŵp, yn annog y gorhedydd y waun wrth iddyn nhw heidio at yr ysbeiliwr. Am wefr!

Rwyf hefyd wedi bod yn monitro dau o faglau camera ar lannau’r afon sy’n llifo heibio fy ngardd.  Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweld gweithgareddau’r gwahanol greaduriaid y nos, gan gynnwys yr olygfa fythgofiadwy o dylluan frech yn cael bath yn y dŵr bas. Mae hyd yn oed y wiwerod diflas sy’n sbarduno’r camerâu drosodd a throsodd yn ffynhonnell o adloniant. Mae problemau iechyd, dod yn weddw’n sydyn ac arwahanrwydd y cyfnod clo i gyd wedi gadel eu hôl arna i, ond dydw i byth yn teimlo’n unig nac yn ddiflas nawr. I’r gwrthwyneb, mae bywyd yn llawn diddordeb ac rwy’n edrych ymlaen bob bore at ddarganfod pa beth arall rwy’n rhannu fy myd gyda nhw.”