Grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy o £5,000
Mae Mind Aberhonddu a’r Cylch yn cefnogi pobl cymunedau gwledig De Powys sy’n cael eu heffeithio gan salwch a thrallod meddyliol.
Lansiwyd prosiect Meddyliau Gwyrdd yn gynnar yn 2020 gyda sesiynau eco therapi llwyddiannus i 12 o gyfranogwyr, a wnaeth bocsys adar a chymryd rhan mewn gweithgareddau plannu a thyfu. Cyfrannodd grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy at gostau staff i ddatblygu’r fenter ymhellach – gan ganolbwyntio ar greu gardd gwenyn a bywyd gwyllt yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu a gardd bywyd gwyllt yn ysbyty Bronllys.
Ar ôl y cyfnod clo Mawrth 2020 addasodd y staff eu dulliau’n gyson er mwyn sicrhau diogelwch y cyfranogwyr. Datblygwyd adnoddau ar lein ar gyfer y rhai oedd eisoes yn gyfranogwyr ac ar gyfer y gymuned ehangach. Pan oedd yn bosibl, rhwng cyfnodau clo, roedd y sesiynau therapiwtig garddio a cherdded coetiroedd yn parhau ar adeg pan oedd pobl eu hangen fwyaf.
Mae’r ardd llesiant y tu ôl i swyddfeydd yr Eglwys Gadeiriol yn cynnwys gwelyau a borderi ar gyfer blodau lluosflwydd sy’n caru peillwyr yn gymysg â pherlysiau diddorol, bwytadwy ac sy’n iachau. Gobeithir y bydd yr ardd yn ysbrydoli synnwyr o dawelwch ac adfer yn ogystal â bod yn lle ar gyfer dysgu a thyfu. Mae aelodau o’r grŵp wedi bod â rhan uniongyrchol mewn plannu ac adeiladu llwybrau o gwmpas yr ardd o gerrig wedi’i ailgylchu.
Roedd pobl yn gwerthfawrogi cymryd rhan yn fawr iawn:
“Cyn y cyfnod clo, roeddwn i’n gweithio fel gwirfoddolwr dros grŵp Alzheimer. Pan gafodd hynny ei atal, collais ran fawr o’m bywyd cymdeithasol hefyd, felly, mae bod yn rhan o grŵp eto wedi bod o help mawr.”
“Dydw i ddim yn adnabod llawer o bobl yn yr ardal ac mae’r cyfnod clo wedi gwneud i mi deimlo’n wirioneddol ynysig, felly, mae gwybod fod y grŵp yma’n wirioneddol dda.”
“Rwy’n wirioneddol yn mwynhau cymryd rhan yn y sesiynau Meddyliau Gwyrdd. Mae’n helpu’n fawr i leddfu fy mhryder ac mae’n fy nghael i allan o’r tŷ hefyd, a’m cadw’n brysur.” “Rwy’n teimlo’n well hefyd edrych ar ôl a chael fy nwylo yn y pridd.”