Y Ffordd Orau o Wneud Cais am Gyllid

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Rydyn ni bob amser yn hapus i sgwrsio ac ateb cwestiynau

Cyn i chi ddechrau gwneud cais …

  1. Darllenwch y meini prawf cymhwysedd a’r nodiadau canllaw – er ei fod yn
    ymddangos yn amlwg, mae’n bwysig iawn.
    Edrychwch i weld beth mae’r Cyllidwr wedi’i gefnogi o’r blaen. A yw’ch
    sefydliad yn gymwys i wneud cais ac a yw’r prosiect yn bodloni meini prawf y
    rhaglen?
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am gyfansoddiad eich grŵp – a oes
    gennych chi gopi diweddar o’ch dogfen lywodraethu? A yw’r hyn rydych yn
    bwriadu ei wneud yn rhan o’i gylch gwaith?
  2. Os yw’r Cyllidwr yn cynnig sgwrs ar gychwyn y broses – ewch amdani! Fe fydd
    yn falch iawn o glywed gennych chi – wir! Os holwn gwestiynau sy’n
    ymddangos yn lletchwith, nid dyna’r bwriad! Rydyn ni’n ceisio rhagweld yr hyn
    y gallai aelodau’r Panel ei ofyn – a byddan nhw bob amser yn gofyn pethau
    nad oes yr un ohonon ni wedi meddwl amdanyn nhw!
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi trafod y cynlluniau gyda’ch cyd-aelodau o’r
    pwyllgor, ymddiriedolwyr ac ati. Mae angen i’r penderfyniad i fwrw ymlaen
    fod yn unfrydol – neu mor agos â phosibl at hynny!

    Os bydd y Cyllidwr yn dweud ei bod hi’n werth gwneud cais …
  4. Dechreuwch gael syniad o gostau gan nodi’r hyn sydd ei angen. Ewch i gasglu
    dyfynbrisiau, siaradwch â grwpiau eraill am eu profiadau, lluniwch gyllideb.
    Mae cyllidwyr bob amser yn amheus o ffigurau crynion! Gwnewch yn siŵr eich
    bod yn gwneud eich gorau i ddefnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol (er
    efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl), a defnyddiwch ddeunyddiau
    ecogyfeillgar.
  5. Darllenwch unrhyw Nodiadau Canllaw yn ofalus. Peidiwch â defnyddio jargon
    na byrfoddau – cofiwch y bydd hyn i gyd yn newydd i’r bobl sy’n darllen eich
    cynnig. Siaradwch â’r un fydd yn darllen y cynnig gan gofio mai bod dynol
    ydyw. Peidiwch â mynd y tu hwnt i’r nifer geiriau a ganiateir ar y ffurflenni,
    ond peidiwch â theimlo ychwaith fod yn rhaid ichi lenwi’r gofod i gyd.
    Gofynnwch i eraill sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â’r cynnig i
    ddarllen y drafftiau a rhoi eu sylwadau.
  6. Byddwch yn onest, yn agored ac yn realistig. Mae cyllidwyr yn gwneud
    gwiriadau cefndir ac yn siarad â’i gilydd! Maen nhw’n edrych ar wefannau’r
    Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau er mwyn gweld, er enghraifft, unrhyw
    wybodaeth sy’n cael ei dychwelyd yn hwyr ac a allai fod yn arwydd o
    broblemau.
  7. Cymerwch amser i esbonio’n glir yr hyn y mae’ch grŵp yn ei wneud nawr –
    bydd pob ffurflen ag adran yn gofyn am hyn.
    Bydd eich nodau sylfaenol yn cael eu crynhoi yn eich dogfen lywodraethu,
    ond bydd eich ffyrdd o gyflawni’ch nodau yn eang eu hystod. Eglurwch y
    modd y cafodd y grŵp ei ffurfio a’r holl bethau anhygoel yr ydych yn eu
    gwneud, e.e. nifer y bobl sy’n cymryd rhan, y ffordd yr ewch ati i wneud yn
    siŵr fod pawb yn eich cymuned yn gwybod am eich gweithgareddau, a’r rhai
    yr ydych yn gweithio â nhw (partneriaid).
  8. Eglurwch yn glir eich bwriad a’ch sicrwydd fod angen amdano
    Sut ydych chi’n gwybod y bydd eich cynllun yn llenwi bwlch na fydd unrhyw
    un arall yn mynd i’r afael ag e? Gyda phwy ydych chi wedi siarad? Ydych chi
    wedi cynnal unrhyw ymgynghoriadau neu astudiaethau? A oes unrhyw
    ymchwil neu ddata annibynnol ar gael? Bydd angen ichi ddangos hyn ar gyfer
    cais o unrhyw faint – o £500 i £50,000. Os ydych chi’n gwneud cais am grant
    mawr, bydd angen i’ch tystiolaeth fod yn fwy manwl ac argyhoeddiadol.
    Eglurwch rolau unrhyw bartneriaid yn y maes. Bydd y cyllidwyr am glywed
    cadarnhad gan eraill y tu allan i’ch grŵp – nid dim ond eich llais chi; mae
    llythyrau ac e-byst cefnogol bob amser yn ddefnyddiol.
    Nid oes angen ichi ysgrifennu rhyddiaith hardd – bydd pwyntiau bwled yn aml
    yn gwneud y tro.
    Meddyliwch amdano yn nhermau adrodd stori. Efallai bod cais am bopty
    newydd yn swnio’n ddiflas, ond yr hyn sy’n digwydd o ganlyniad i hynny fydd
    yn cyffroi’r Cyllidwr! Gallai’r popty: ddarparu prydau bwyd i bobl mewn angen;
    ei gwneud hi’n fwy ymarferol i’r Neuadd logi’i chyfleusterau ar gyfer
    digwyddiadau a’i gwneud yn ariannol gynaliadwy; a galluogi dosbarthiadau
    coginio i blant.

    Byddwch yn angerddol a chyfleu eich brwdfrydedd – mae’n heintus!
  9. Ble bydd y gwaith yn digwydd? A fydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd
    arall arnoch? Gall y rhain gymryd amser.
  10. Esboniwch yn glir y gwahaniaeth fydd y gwaith/prosiect yn ei wneud.
    Nodwch yn glir y modd y bydd pethau’n wahanol o ganlyniad i’ch gwaith a’r
    ffordd y byddwch yn gwybod ei fod yn llwyddiannus.
  11. Gofynnwch i rywun sydd ddim yn ymwneud â’ch prosiect na’ch grŵp, ddarllen
    y drafft terfynol a rhoi adborth gonest i chi.
    Os bydd Cyllidwr yn cynnig edrych dros un o’ch drafftiau – bachwch ar y cyfle!
    Y dyddiau hyn, pur anaml y mae’r broses yn dod i ben trwy bwyso’r botwm
    ANFON. Mae cyllidwyr eisiau bod yn rhyngweithiol a gwneud yn siŵr fod
    unrhyw brosiect gystal ag y gall fod.
    CADWCH GOPI!
  12. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae Cyllidwyr yn deall bod pethau’n newid
    a’u bod ddim bob amser yn dilyn y cynllun. Mae modd dysgu rhywbeth o hyn
    bob amser, ac mae’n llawer gwell rhoi cynnig arni na gwneud dim. Mae
    pethau yn mynd o chwith weithiau!
    Mae cadw mewn cysylltiad â Chyllidwr yn HANFODOL; serch hynny, rhowch
    wybod iddynt ar unwaith os oes unrhyw broblemau neu heriau yn codi. A
    rhowch wybod iddynt pan fydd pethau’n mynd yn dda hefyd! Rydyn ni wrth
    ein boddau’n clywed gennych chi!

Peidiwch Ag Oedi Cyn Cysylltu  Chyllidwr I Holi Ynghylch Unrhyw Beth. Does
Yna’r Un Cwestiwn Sy’n Rhy Wirion. Gofynnwch Am Help Os Oes Ei Angen
Arnoch