Adeiladau Rhestredig

Beth yw Adeilad Rhestredig a pham y maent yn bwysig?

Adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol yw Adeiladau Rhestredig.  Pan gaiff adeilad ei Restru, mae’r statws hwn yn berthnasol i’w ffasâd allanol, ei nodweddion mewnol, unrhyw adeiladau yn ei gwrtil ac unrhyw strwythur sydd wedi’i osod neu wedi’i gysylltu â’r adeilad.  Er mwyn i adeilad fod yn Rhestredig, rhaid iddo gael ei ystyried yn bwysig yn ôl meini prawf penodol, gan gynnwys:

Ei ddiddordeb pensaernïol – ei bensaernïaeth, dyluniad, cynllun, crefftwriaeth, deunyddiau a’r technolegau a ddefnyddiwyd;

Ei ddiddordeb hanesyddol – ei gysylltiadau ag agweddau ar hanes cenedlaethol;

Ei gysylltiadau hanesyddol – ei gysylltiadau â phobl bwysig neu ddigwyddiadau hanesyddol;

Ei werth grŵp – ei gysylltiad ag adeiladau a strwythurau eraill.

Po hynaf yw adeilad, y mwyaf tebygol ydyw i gael ei restru.  Mae pob adeilad sy’n parhau’n debyg i’w ffurf wreiddiol ac a adeiladwyd cyn 1700 yn debygol o fod yn gymwys i ennill statws Rhestredig.  Fodd bynnag, dim ond yr adeiladau hynny o ansawdd eithriadol sy’n dyddio o rhwng 1840 a 1914 sy’n debygol o gael eu Rhestru.  Serch hynny, gall unrhyw adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, beth bynnag fo’i oedran, gael ei ystyried ar gyfer ei Restru.

Mae penderfyniadau ynghylch pa adeilad y dylid ei restru a chynnal a chadw Rhestr Adeiladau yn rhan o ddyletswyddau cyfreithiol Llywodraeth Cymru.  Mae 3 gradd o adeiladau rhestredig:

Gradd I – adeiladau o bwysigrwydd rhyngwladol yw’r rhain sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol eithriadol.  Dim ond 2% o’r holl Adeiladau Rhestredig yng Nghymru sy’n rhai Gradd I.

Gradd II* – mae’r adeiladau hyn o fwy na diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.  Dim ond 7% o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru sy’n rhai Gradd II*.

Gradd II – adeiladau o bwysigrwydd cenedlaethol sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw’r rhain.  Mae’r mwyafrif helaeth o’r Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn rhai Gradd II.

Sut y caiff Adeiladau Rhestredig eu gwarchod?

Daeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (‘Deddf 2023’) i rym ar 4 Tachwedd 2024, ac mae’n darparu’r fframwaith ar gyfer diogelu a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru. Diddymodd y ddeddfwriaeth a ganlyn yng Nghymru:

  • Deddf Adeiladau a Henebion Hanesyddol 1953
  • Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  • Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Daeth cyfres o reoliadau sy’n cefnogi Deddf 2023 hefyd i rym ar 4 Tachwedd 2024. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adeiladau Crefyddol Esempt) (Cymru) 2024
  • Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth) (Cymru) 2024

Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfraddau Llog) (Cymru) 2024

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig, y broses Restru a Chaniatâd Adeilad Rhestredig trwy fynd i’r adran briodol ar wefan Cadw.