Mae’r Crynodeb o’r Ymgynghoriad yn rhoi manylion y broses ymgynghori a ddefnyddiwyd i gynnwys partneriaid ac aelodau eraill o’r cyhoedd ym mhroses Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol. Mae’n crynhoi’r dulliau ymgynghori a ddefnyddiwyd, yr ymatebion a gafwyd a’r newidiadau a wnaed i’r Cynllun Rheoli o ganlyniad.
Er bod y ddogfen hon yn crynhoi’r dulliau a’r ystadegau a oedd yn gysylltiedig â chamau blaenorol yn y broses ymgynghori, mae canolbwynt y ddogfen ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar ail ddrafft y Cynllun Rheoli rhwng 2009 a 2010. Mae’r sylwadau a’r ymatebion a gafwyd o ganlyniad i’r camau eraill yn y broses i’w gweld ar y dudalen Dogfennau Ategol.
Crynodeb o’r Ymgynghoriad (Saesneg)
Crynodeb o’r Ymgynghoriad (Cymraeg)
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech gael copi o’r dogfennau hyn ar bapur neu ar CD, cysylltwch â Swyddog Tystiolaeth a Pherfformiad, trwy neges e-bost neu trwy ffonio’i linell uniongyrchol 01874 620465.