Mae Adroddiad Cyflwr y Parc yn cynnig arwydd o dueddiadau ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn gysylltiedig â: rhinweddau, amgylchedd ac asedau diwylliannol arbennig y Parc; pa mor dda y mae’r cyhoedd yn deall y rhain ac yn eu mwynhau, a lles cymunedau lleol.
Mae Adroddiad Cyflwr y Parc 2006, sef yr adroddiad diweddaraf, yn cynnwys 23 o ddangosyddion a ddewiswyd yn ofalus o blith y data sydd ar gael er mwyn arfarnu newidiadau yng nghyflwr y Parc gydag amser.
Adroddiad Cyflwr y Parc 2006
Mae Adroddiad Cyflwr y Parc yn gam allweddol yn y gwaith o gynllunio rheolaeth y Parc Cenedlaethol er mwyn i ni allu deall cyflwr presennol a thueddiadau cysylltiedig ei adnoddau.
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech gael copi o’r dogfennau hyn ar bapur neu ar CD, cysylltwch â Brad Welch, Swyddog y Cynllun Rheoli, trwy neges e-bost neu trwy ffonio’i linell uniongyrchol 01874 620411.