Caiff y prosesau hyn eu defnyddio i asesu polisïau’r Cynllun yn ôl cyfres o amcanion cynaliadwyedd ac amcanion amgylcheddol. Yn yr un modd, craffwyd ar bolisïau’r Cynllun Rheoli am eu heffeithiau sylweddol tebygol ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd yn y Parc Cenedlaethol ac yng nghyffiniau’r Parc.
Mae’r dogfennau hyn a’r dogfennau ymgynghori cynnar i’w gweld ar y dudalen hon.
Datganiad Cynaliadwyedd 2010
Mae rheoliadau’r Arfarniad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn gofyn bod datganiad ar gael i gyd-fynd â’r cynllun neu’r rhaglen fabwysiedig. Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gynnwys gwybodaeth am:
- Sut mae ystyriaethau cynaliadwy ac amgylcheddol wedi cael eu hintegreiddio i’r cynllun neu’r rhaglen;
- Sut mae Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd wedi cael ei gymryd i ystyriaeth;
- Sut mae barn a fynegwyd mewn perthynas â’r ymgynghoriad wedi cael ei hystyried;
- Y rhesymau dros ddewis y Cynllun fel y’i mabwysiadwyd, yng ngoleuni dewisiadau amgen rhesymol a drafodwyd; ac
- Y mesurau a fydd yn cael eu cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithredu’r Cynllun.
Datganiad Cynaliadwyedd (Saesneg yn unig)
Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd
- Adroddiad yr Asesiad o Reoliadau (Saesneg yn unig)
Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd
- Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd (Saesneg yn unig)
Adroddiad Cwmpasu 2007
Mae Adroddiad Cwmpasu Hydref 2007 yn cynnwys amserlenni perthnasol sy’n ymwneud â chwblhau’r Cynllun Rheoli a’r asesiadau cynaliadwyedd ac amgylcheddol cysylltiedig.
- Adroddiad Cwmpasu (Saesneg yn unig)
- Gwaelodlin yr Adroddiad Cwmpasu (Saesneg yn unig)
- Adolygiad (Saesneg yn unig)
Gweithdai Ymgynghori 2006
Dechreuodd y broses ymgynghori ffurfiol ar gyfer Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol gyda gweithdai i randdeiliaid, a gynhaliwyd dros gyfnod o dridiau ym mis Hydref 2006. Roedd pob un o’r diwrnodau wedi trafod dibenion a dyletswydd y Parc Cenedlaethol. Gellir lawrlwytho adroddiad llawn y digwyddiad cyfan i randdeiliaid ar ffurf PDF (gweler y ddolen ar waelod y dudalen).
Fel arall, gall adroddiadau unigol ar bob un o’r tri gweithdy gael eu lawrlwytho ar wahân:
- 12 Hydref 2006 (Gweithdy’r dirwedd, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol) (Saesneg yn unig)
- 19 Hydref 2006 (Gweithdy mwynhau’r parc yn gynaliadwy) (Saesneg yn unig)
- 20 Hydref 2006 (Gweithdy Cymunedau Cynaliadwy) (Saesneg yn unig)
- Adroddiad Rhanddeiliaid (Adroddiad Llawn y Rhanddeiliaid) (Saesneg yn unig)
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech gael copi o’r dogfennau hyn ar bapur neu ar CD, cysylltwch â Swyddog Tystiolaeth a Pherfformiad, trwy neges e-bost neu trwy ffonio’i linell uniongyrchol 01874 620465.