Mae’r cyfnod canoloesol yn gyfnod aruthrol o hir rhwng diwedd y cyfnod Rhufeinig yn y bedwaredd ganrif OC a ddiwedd Rhyfeloedd y Rhosynnod. Dyma gyfnod a welodd newidiadau arwyddocaol fel dirywiad dylanwad y Rhufeiniaid, twf Cristnogaeth ac Eglwys Cymru, a dyfodiad y Normaniaid. Mae gweddillion yr oesoedd canol cynnar ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u dominyddu gan adeiladau crefyddol megis croesau maen a cherrig arysgrifedig sydd nawr i’w cael mewn sawl eglwys a mynwent yn y Parc Cenedlaethol, tra bo dylanwad y canol oesol hwyrach i’w gweld yn olion yr hen aneddiadau canoloesol a’r cestyll. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn gartref i safle unigryw ac arbennig iawn, yr unig Grannog yng Nghymru. Ceir rhagor o wybodaeth isod am weddillion y cyfnod cyfareddol hwn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Crannog Llyn Syfaddan
Un o’r safleoedd canoloesol cynnar mwyaf eiconig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r Crannog yn Llyn Syfaddan. Ynysoedd artiffisial wedi’u hadeiladu o goed a cherrig, lle’r oedd rhyw fath o anheddiad yn sefyll, fel arfer, yw cranogau. Mae cranogau’n fwy cyffredin yn Iwerddon a’r Alban, lle maent yn bodoli o gynhanes i’r cyfnod canoloesol, ond Crannog Llyn Syfaddan yw’r unig enghraifft o grannog y gwyddom amdano yng Nghymru. Mae’r ynys yn mesur tua 40m x tua 30m, mae wedi’i hadeiladu o bentyrrau coed, planciau, cerrig, brwyn a mawn, ac mae cloddiadau’n awgrymu bod y safle’n dyddio’n ôl i’r 8fed neu’r 9fed ganrif. Byddai adeiladu’r crannog wedi bod yn dasg fawr iawn, a byddai gofyn cael llawer o gerrig, pren a gweithlu mawr; byddai wedi bod yn waith ar gyfer rhywun grymus a chyfoethog tu hwnt. Mae’r deunydd a adferwyd wrth gloddio’r crannog hefyd yn awgrymu bod y crannog wedi’i feddiannu gan unigolyn cyfoethog â statws uchel, oherwydd yn y gwaddodion yn y dŵr canfuwyd darn o liain coeth ac edau sidan wedi’i addurno â lluniau o anifeiliaid a phlanhigion. Credir y gallai’r darn hwn o ddefnydd fod yn rhan o diwnig neu ffrog o ansawdd uchel iawn a rhaid ei fod wedi perthyn i unigolyn cyfoethog â statws uchel. Am y rhesymau hyn, awgrymwyd y gallai’r crannog fod wedi bod yn gartref i frenhinoedd Brycheiniog ar ddechrau’r Oesoedd Canol. Er bod y safle’n bwysig iawn ac yn frenhinol, o bosibl, mae olion llosgi i’w gweld yno sy’n awgrymu y cafodd y crannog ei ddinistrio gan dân ar ddechrau’r 10fed ganrif.
Cestyll
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn gartref i olion nifer o gestyll a rhain yw rhai o’r olion archaeolegol mwyaf gweladwy ac atgofus yn y Parc Cenedlaethol. Cestyll cylchfur yw llawer o’r rhain, sef strwythurau coed syml wedi’u hamgylchynu gan glawdd mewnol a ffos allanol; a chestyll mwnt a beili, sydd â strwythur amddiffynnol wedi’i adeiladu o bren ar ben twmpath ag ochrau serth (y mwnt), ynghyd â’r strwythurau cysylltiedig wedi’u cynnwys mewn clawdd a ffos mawr (neu feili). Gwelir llawer o enghreifftiau o’r cestyll hyn o’r 11eg ganrif, sef cyfnod y Normaniaid, yn y Parc Cenedlaethol, ac maent i’w gweld hyd heddiw fel twmpathau mawr â phennau crwn a gwrthgloddiau. Fodd bynnag, yn ystod cyfnod y Normaniaid, byddant wedi bod yn fwy trawiadol o lawer a chawsant eu defnyddio i reoli safleoedd strategol, sefydlu canolfannau newydd o rym, ac arddangos rheolaeth y Normaniaid. Mae cestyll eraill yn y Parc Cenedlaethol yn goroesi ar ffurf strwythurau mawr wedi’u hadeiladu o gerrig, fel Castell Carreg Cennen a Chastell Tretŵr. Roedd y cestyll hyn yn gartref i bendefigion cyfoethog ac yn gweithredu fel canolfannau o rym gwleidyddol a llywodraeth leol, yn ogystal â safleoedd amddiffynnol. Yn aml, roedd y cestyll mawr hyn wedi’u hadeiladu o gerrig yn dechrau fel strwythurau syml o bridd a choed, a chawsant eu hailadeiladu a’u hymestyn dros gannoedd o flynyddoedd i adael yr olion dramatig a rhamantus a welwn heddiw.
Aneddiadau canoloesol
Nid dim ond olion cestyll a chartrefi’r dosbarth cyfoethog ac elitaidd sydd i’w gweld ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae hefyd yn cynnwys olion cartrefi ac aneddiadau pobl gyffredin. Mae hyn yn cynnwys olion ffermydd neu hafodydd diarffordd yn yr uwchdiroedd, pan oedd hinsawdd gynhesach yn caniatáu amaethu ar dir uwch na fyddai’n bosib heddiw, ac ardaloedd mewn pentrefi a phentrefannau lle’r oedd tai a gerddi’n arfer sefyll, ond sydd bellach yn dir pori.
Rhagor o ddeunyddiau darllen:
Campbell E a Lane A ‘Llangorse: a 10th century royal crannog in Wales’ o Antiquity 63 (1989) tt.675-81.
Leighton D (2012) The Western Bannau Brycheiniog. The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr Aberystwyth: Cambrian Printers.
Mumford L et al. ‘The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece’ o Gillis C a Nosch M L-B (goln) (2007) Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Rhydychen: Oxbow Books.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited