Am gannoedd o flynyddoedd, roedd y calchfaen ar y llethrau hyn yn cael ei gloddio a’i losgi mewn odynau i gynhyrchu calch i’w ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol, yn y fasnach adeiladu ar gyfer plastr a morter, ac mewn llawer o brosesau diwydiannol fel cynhyrchu haearn. Wedi iddo gael ei gloddio o’r llethrau, roedd rhaid llosgi’r calchfaen mewn odyn i gynhyrchu calch brwd, sef sylwedd defnyddiol ond cyrydol a pheryglus iawn. Am gannoedd o flynyddoedd, byddai ffermwyr lleol o’r ddwy ochr i’r mynydd yn teithio i’r chwareli yn y gwanwyn â’u ceffyl a throl i echdynnu a llosgi’r calchfaen, ac yna’n cludo’r calch brwd yn ôl i’w ffermydd i’w ddefnyddio. Dros amser, tyfodd y gwaith o gynhyrchu calch o’r chwareli ac, yn y pen draw, cafodd ei ddatblygu ar raddfa fasnachol. Yn y 1950au, caeodd y chwarel a daeth y cynhyrchu i ben.
Mae Chwareli’r Mynydd Du yn gapsiwl amser o agwedd bwysig iawn ar dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Mae olion ffisegol defnydd calch sy’n rhychwantu cannoedd o flynyddoedd, gyda gweithfeydd y chwareli, odynau calch a thomenni pridd gwastraff o’r defnydd ar raddfa fechan yn y 1700au i’r defnydd diwydiannol ar raddfa fawr yn yr 20fed ganrif. Wrth i chi grwydro’r safle, rydych yn camu trwy amser ac yn dilyn olion troed cannoedd a miloedd o bobl o’ch blaen, pobl y gwnaeth eu gwaith caled, eu chwys a’u slafdod ffurfio’r dirwedd hon a gadael etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog.
Am ragor o wybodaeth am Chwareli’r Mynydd Du, am brosiect cyffrous CALCH sydd wrthi’n gweithio i ddarganfod, dathlu ac atgyweirio olion diwydiant calch Chwareli’r Mynydd Du, ac i gael gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan, ewch i wefan CALCH.