Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd, sy’n golygu bod treftadaeth yr ardal o bwysigrwydd rhyngwladol ac o Werth Byd-eang Eithriadol. Roedd gweithgarwch diwydiannol de Cymru yn rhan hanfodol bwysig o’r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain, sef y Chwyldro Diwydiannol cyntaf yn y byd, ac yn natblygiad Cymru fel gwlad ddiwydiannol.
Mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn dirwedd a grëwyd yn gyfan gwbl o ganlyniad i ddiwydiannu’r 18fed a’r 19eg ganrif, yn enwedig cloddio glo a chynhyrchu haearn. Mae gan y dirwedd heddiw gysylltiadau cryf â’r gorffennol; mae hanesion y dynion, y menywod a’r plant a weithiodd yma yn y pyllau glo a’r chwareli, yn yr odynau a’r ffwrneisi, ar y tramffyrdd, rheilffyrdd a’r camlesi, a bu’n gweithio’n galed ac yn llafuro i greu’r dirwedd eithriadol hon (a newid y byd trwy wneud hynny), yn fyw i ni hyd heddiw yn yr olion ffisegol y gadawsant ar eu hôl.
Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn gorchuddio ardal 32.9 cilometr sgwâr, y mae’r hanner gogleddol ohono y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan yr ardal ddau atyniad mawr i ymwelwyr, sef Big Pit – Amgueddfa Lofaol Cymru, a Gwaith Haearn Blaenafon. Ond mae gan yr ardal lawer mwy i’w gynnig i’r rhai sy’n awyddus i archwilio, gydag olion helaeth yn ymwneud â chloddio glo, echdynnu mwyn haearn, prosesu a gweithgynhyrchu diwydiannol, cludiant a chyfathrebu a’r trefi hanesyddol a ddatblygodd i letya’r gweithlu ymfudol a heidiodd i’r ardal i weithio.
Gwaith Haearn Blaenafon
Roedd y gwaith yn weithredol o 1789 i 1902. Adeg ei adeiladu, roedd Gwaith Haearn Blaenafon ar flaen y gad o ran technoleg cynhyrchu haearn. Roedd wedi’i bweru â stêm ac roedd ganddo dair ffwrnais chwyth, gan ei wneud yn un o’r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd. Roedd y Gwaith Haearn wrth wraidd y dirwedd ddiwydiannol; pe na fyddai’r Gwaith Haearn yn bodoli, ni fyddai’r chwareli, mwyngloddiau, tomenni pridd gwastraff, tramffyrdd, rheilffyrdd, camlesi, tai gweithwyr na’r adeiladau dinesig yn bodoli chwaith. Datblygodd a thyfodd y Gwaith Haearn gydag amser, a heddiw gall ymwelwyr â’r safle weld olion chwe ffwrnais chwyth, y todd-dŷ a’r tŵr dŵr cytbwys, a lifft hydrolig. Mae bythynnod y gweithwyr a adnewyddwyd a siop y cwmni a ailadeiladwyd yn rhoi golwg fyw i’r gorffennol i ymwelwyr weld sut beth oedd bywyd i’r bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yma. Gwaith Haearn Blaenafon yw’r gyfres o ffwrneisi chwyth sydd wedi’i chadw orau o’i chyfnod yn y byd, ac mae’n werth ei gweld. Caiff y safle ei reoli gan Cadw, mae mynediad yn rhad ac am ddim, a daw’r safle’n fyw trwy ddehongliadau ac arddangosfeydd gofalus.
Y Pwll Mawr
Saif y Pwll Mawr yng nghanol Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Pwll glo ydyw a suddwyd gan Gwmni Blaenafon tua 1860 i ddarparu glo ar gyfer y Gwaith Haearn, ar gyfer llosgi calch, ar gyfer pweru injans stêm a gwresogi cartrefi’r gweithwyr. Roedd y pwll yn weithredol tan 1980 ac mae’r adeiladau yn y Pwll Mawr, gan gynnwys peiriandai, blociau stablau, gweithdai a’r baddonau pen pwll, yn gapsiwl amser sy’n dangos datblygiad y pwll o’r 1860au i’r 1970au. Heddiw, mae’r safle’n gartref i Amgueddfa Lofaol Cymru arobryn. Mae adeiladau’r pwll wedi’u cadw a’u gweddnewid fel y daw bywyd y pwll a hanesion y bobl a oedd yn gweithio yno yn fyw i ymwelwyr. Mae’r injan weindio a’r cewyll yn gweithio o hyd, a chaiff ymwelwyr eu harwain ar daith dywysedig dan y ddaear, i lawr y siafft pwll 90 metr dwfn, gan löwr a oedd yn gweithio yn y pwll gynt, i ddysgu’n uniongyrchol am waith y dynion a’r bechgyn a oedd yn gweithio ar y talcen glo, gan ddod â hanes cloddio glo ym maes glo de Cymru yn fyw.