Sefydlwyd Gweithfeydd Powdwr Gwn Glyn-nedd ar y safle ym 1857 i gynhyrchu powdwr gwn i’w ddefnyddio ar gyfer mwyngloddio a chwarela, ac roedd yn weithredol tan ddechrau’r 1930au. Ond roedd llawer o berchnogion gwahanol ar y gweithfeydd dros y blynyddoedd. I ddechrau, efallai y byddwch o’r farn bod y dyffryn hwn â llethrau serth yn lle rhyfedd i adeiladu a gweithredu busnes gweithgynhyrchu, fodd bynnag, roedd y lleoliad yn addas iawn ar gyfer cynhyrchu powdwr gwn. Mae cynhyrchu powdwr gwn yn broses beryglus iawn ac mae risg uchel iawn o ffrwydrad. Mae hwn yn safle mawr ac anghysbell, yn ymestyn dros filltir a hanner ar hyd lan ogleddol yr afon a gorchuddio ardal 180 hectar. Roedd hyn yn darparu digon o le rhwng pob ffatri i unrhyw ffrwydrad gael ei gyfyngu i’r ffatri hwnnw.
Er gwaethaf ei leoliad anghysbell, mae gan y safle gysylltiadau cludiant da, gan gynnwys Camlas Castell-nedd ac Abertawe a Rheilffordd Cwm Nedd. Mae afon Mellte yn darparu ffynhonnell ddefnyddiol o ynni i bweru’r olwynion dŵr a’r tyrbinau a oedd yn pweru’r prosesau gweithgynhyrchu. Roedd topograffeg y dyffryn yn ddefnyddiol iawn hefyd. Roedd ei lethrau serth yn galluogi i adeiladau’r ffatri gael eu hadeiladu ar ochr y bryn ac roedd cloddiau mawr rhwng y ffatrïoedd a adeiladwyd ar y llethrau yn helpu i sefydlogi’r adeiladau ac yn lleihau effaith unrhyw ffrwydrad. Hefyd, roedd y safle’n agos at ffynonellau deunyddiau crai angenrheidiol i gynhyrchu powdwr gwn, sef siarcol, sylffwr a solpitar (potasiwm nitrad).
Er gwaethaf blynyddoedd lawer o weithredu’n llwyddiannus, daeth cynhyrchu yn y ffatri i ben ym 1931 pan waharddwyd powdwr gwn rhag cael ei ddefnyddio mewn pyllau glo, gan leihau’r galw amdano. Gadawyd y safle’n gyfan gwbl erbyn 1940, a chafodd llawer o’r adeiladau eu llosgi a’u dymchwel oherwydd y perygl o ffrwydro’n ddamweiniol. Dyma pam mai dim ond olion adeiladau’r ffatri sy’n bodoli erbyn hyn. Fodd bynnag, mae digon o’r adeiladau’n weddill i gael syniad o raddfa’r gwaith yn y ffatri. Gallwch gerdded ar hyd llwybr gwastad, sef olion un o’r tramffyrdd a oedd yn symud deunyddiau o gwmpas y ffatri. Roedd deunyddiau crai yn dod i mewn ar waelod a safle ac, wrth iddynt symud trwy’r gweithfeydd, roeddent yn mynd trwy amrywiaeth o brosesau gwahanol er mwyn i’r powdwr gwn gorffenedig ddod allan ym mhen uchaf y gweithfeydd. Cafodd ansawdd y powdwr gwn ei brofi trwy ei ddefnyddio i danio magnel, sydd yn Amgueddfa Aberhonddu erbyn hyn, ac roedd y powdwr ond yn cyrraedd y safon os oedd yn taflu pêl fagnel at bellter penodol.
Bydd llinell yr hen dramffordd yn mynd â chi trwy’r gweithfeydd a heibio i olion pob un o adeiladau’r ffatri. Bydd rhai o’r rhain yn anodd eu gweld, yn llawn tyfiant ac yn cuddio rhwng y coed. Mae olion eraill yn fwy amlwg, fel y Corning House mawr concrid, lle’r oedd cacennau powdwr gronynnog yn cael eu chwalu gan forthwylion pren. Byddwch yn sylwi mai dim ond tair wal sy’n weddill yn nifer o’r strwythurau cerrig a gwaith maen a welwch heddiw. Mae hyn gan y byddai’r to a’r bedwaredd wal wedi’u gwneud o bren er mwyn i unrhyw ffrwydrad symud i fyny ac allan o’r adeilad a lleihau unrhyw ddifrod i’r peiriannau drud. Yn ogystal â’r strwythurau cerrig a gwaith maen a oedd yn lletya peiriannau’r gweithfeydd ar un adeg, mae olion helaeth ar y safle yn ymwneud â’r system rheoli dŵr hefyd, gan gynnwys ffrydiau, traphontydd dŵr, coredau a phibellau hydrolig.
Roedd diogelwch yn hollbwysig, a chymerwyd pob rhagofal i osgoi ffrwydradau. Roedd rhaid i weithwyr newid i ddillad gwaith cyn mynd i mewn i ardaloedd peryglus posibl y ffatri. Roedd y dillad gwaith hyn yn cynnwys sliperi lledr wedi’u cau â phegiau pren i wisgo dros eu hesgidiau er mwyn atal gwreichion. Ni chaniatawyd trowsus â phocedi na godreon chwaith, er mwyn atal graean rhag cael ei gludo i’r gweithfeydd gan achosi gwreichion. Roedd ardaloedd mawr o’r gweithfeydd yn cael eu gwlychu â dŵr yn rheolaidd i’w cadw’n llaith ac atal y perygl o ffrwydrad. Yr enw ar hyn oedd ‘iro’, a phe byddai ffrwydrad yn digwydd mewn un adeilad, byddai rhannau eraill o’r gweithfeydd yn cael eu gwlychu â dŵr fel mater o drefn er mwyn atal y ffrwydrad rhag lledaenu. Er gwaethaf y rhagofalon diogelwch hyn, cofnodwyd llawer o ffrwydradau yn y felin.
Wrth i chi grwydro’r safle, dychmygwch sut beth fyddai gweithio yma. Yn ei anterth, roedd y Gweithfeydd Powdwr Gwn yn cyflogi tua 65 i 70 o bobl, sef dynion yn bennaf. Roedd gweithio yn y gweithfeydd powdwr gwn yn waith peryglus a brwnt ac er gwaethaf yr amodau peryglus, roedd pobl yn fodlon gweithio a hynny am oriau hir o 7am i 5pm. Serch hynny, nid oedd y gweithwyr yn ennill mwy na gweithwyr mewn unrhyw ddiwydiant lleol arall. Fodd bynnag, roedd y cwmni’n darparu ysgoldy yn y pentref i addysgu plant y gweithwyr, yn darparu peth llety i’r staff ac yn caniatáu i’r gweithwyr adeiladu a chynnal gerddi ar safle helaeth y gweithfeydd powdwr gwn.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd erbyn heddiw yn berchen ar y Gweithfeydd Powdwr Gwn ac yn eu rheoli. Gallwch eu cyrraedd yn hawdd o faes parcio Pontneddfechan a Chraig Dinas.
Cynhyrchwyd llwybr llafar gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n datgelu sut beth oedd gweithio yn y Gweithfeydd Powdwr Gwn ym Mhontneddfechan. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano a llwytho’r llwybr llafar i lawr yma.
Sylwch: Er diogelwch y cyhoedd, mae rhannau o’r Gweithfeydd Powdwr Gwn ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd er mwyn gwneud gwaith cadwraeth.