Caiff Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei lywodraethu gan 24 aelod drwy 3 Phwyllgor sy’n cyfarfod yn rheolaidd – sef
• Cyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol
• y Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy
• a’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r holl staff (a elwir hefyd yn Swyddogion) yn yr Awdurdod yn atebol yn y pen draw i’r Aelodau. Maent yn gweithio’n feunyddiol o fewn un o dair Cyfarwyddiaeth; y gyfarwyddiaeth Rheoli Tir a Chefn Gwlad, y gyfarwyddiaeth Gynllunio, a chyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.
Caiff papurau i unrhyw Bwyllgorau’r Aelodau eu cynhyrchu gan staff unigol. Er mwyn sicrhau bod yr Aelodau’n cael y wybodaeth briodol i’w galluogi i wneud penderfyniadau, bydd staff yn rhoi’r papurau gerbron y Tîm Rheoli Corfforaethol yn gyntaf.
Y Tîm Rheoli Corfforaethol
Y Tîm Rheoli Corfforaethol yw’r corff rheoli mewnol allweddol yn yr Awdurdod; mae yna 7 swyddog parhaol a swydd sy’n cylchdroi er mwyn rhoi cyfleoedd datblygu i reolwyr canol. Bydd hefyd swyddog yn cymryd cofnodion – fel arfer Cynorthwyydd Personol y Prif Weithredwr.
Mae’r Tîm Rheoli Corfforaethol yn cynnal cyfarfod llawn unwaith y mis. Bydd agenda’r cyfarfod hwn a chofnodion y cyfarfod blaenorol ar gael i’r holl staff i’w gweld (ac eithrio eitemau eithriedig sydd fel arfer yn ymwneud â materion personol unigolyn neu fater ariannol, neu sy’n delio â gwybodaeth masnachol neu gyfreithiol sensitif).
Mae’r Tîm Rheoli Corfforaethol hefyd yn cyfarfod am gyfnod byr bob wythnos i ddelio ag unrhyw faterion sydd angen rhoi sylw iddynt rhwng y cyfarfodydd llawn. Caiff unrhyw benderfyniadau a gymerir yn y cyfarfodydd hyn eu cynnwys yng nghofnodion cyfarfod misol ffurfiol y Tîm Rheoli Corfforaethol.
Mae’r Tîm Rheoli Corfforaethol yn eithaf democrataidd yn eu trafodaethau – bydd gan aelodau’r cyfle i siarad a rhoi eu barn ar unrhyw bynciau, waeth beth yw eu diddordeb neu swydd benodol. Os bydd unrhyw aelod o’r Tîm Rheoli Corfforaethol yn datgan budd personol mewn eitem, bydd fel arfer yn gadael yr ystafell neu ddim yn cyfrannu at y trafodaethau. Caiff papurau/pynciau eu cyflwyno naill ai gan unigolion neu gan y Cyfarwyddwr perthnasol. Rhaid i bapur a gyflwynir gan gyfarwyddiaeth gael sêl bendith y Cyfarwyddwr a bydd fel arfer yn siarad o blaid y papur.
Yn dilyn yr ad-drefnu Corfforaethol yn 2008, bu’n rhaid i unigolion sy’n dal swyddi parhaol o fewn y Tîm ysgwyddo cyfrifoldebau a phrosiectau ychwanegol yn rhinwedd eu swyddi.
Cyfansoddiad y Tîm Rheoli Corfforaethol
Mae’r canlynol yn eistedd ar y Tîm Rheoli Corfforaethol yn barhaol:
• y Prif Swyddog Gweithredol
• y Cyfarwyddwr Cynllunio
• y Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad
• y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
• y Rheolwr Cyfathrebu
Hefyd, mae’r canlynol wedi’u secondio’n barhaol i’r Tîm Rheoli Corfforaethol oherwydd profiad a sgiliau’r deiliaid swydd presennol:
• y Rheolwr Adnoddau Dynol a’r
• Rheolwr TG a Systemau
Mae un sedd yn y Tîm Rheoli Corfforaethol ar gael i staff yn y Tîm Rheoli ar y Cyd (hynny yw, rheolwyr canol yr Awdurdod). Cynigir y rôl hon fel cyfle am ddatblygiad personol. Bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt am sut caiff y sefydliad ei reoli a’u cyfraniad nhw at y broses honno. Mae’r Tîm Rheoli Corfforaethol hefyd yn elwa o gyfraniad yr unigolion hyn. Bydd swyddogion yn ymgymryd â’r swydd hon yn eu tro gan fynychu’r cyfarfodydd misol am dri mis.
Rolau a Chyfrifoldebau
Rôl y Tîm Rheoli Corfforaethol yw cynghori a chefnogi’r Prif Swyddog i wneud y canlynol:
• Arwain a chynnig gweledigaeth a chyfeiriad strategol
• Datblygu polisïau strategol i gyflawni amcanion yr Awdurdod
• Diffinio’r diwylliant corfforaethol a hyrwyddo gwerthoedd craidd
• Sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ac yn gweithredu trefn lywodraethu gorfforaethol gadarn a phrosesau rheoli adnoddau effeithiol
• Sicrhau bod perfformiad yr Awdurdod yn cael ei reoli’n effeithiol
Y Prif Swyddog Gweithredol a’r ddau Gyfarwyddwr sy’n atebol yn y pen draw am benderfyniadau a pherfformiad y Cyfarwyddiaethau a’r Awdurdod i gyd. Caiff aelodau eraill y Tîm Rheoli Corfforaethol eu penodi gan y Prif Weithredwr yn rhinwedd eu swyddogaethau yn rheoli’r sefydliad i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Ar hyn o bryd, nid oes cydnabyddiaeth ariannol am ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn a chaiff unigolion eu talu yn unol â gradd eu swyddi presennol. Mae’r unigolion hefyd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldebau ychwanegol hyn drwy fod yn aelodau o’r Tîm Rheoli Corfforaethol:
Y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:
• Adrodd i Lywodraeth Cymru ar berfformiad yr Awdurdod yn erbyn y llythyr grant strategol
• Adolygu’r dogfennau rheoleiddio, yn cynnwys y rheolau sefydlog a’r cynllun dirprwyo
• Paratoi’r Cylch Busnes Corfforaethol a glynu wrtho
• Paratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol
• Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru
• Cyflawni’r swyddogaeth graffu
Y Rheolwr Cyfathrebu:
• Adrodd i Swyddfa Archwilio Cymru ar amcanion gwella’r Awdurdod
• Cynhyrchu’r adroddiad blynyddol a’r cynllun gwella
• Hyrwyddwr Iaith Gymraeg y Tîm Rheoli Corfforaethol
Y Rheolwr Adnoddau Dynol
• Cyfrifoldeb corfforaethol dros Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys cadeirio’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
• Cyfrifoldeb dros yr eiddo yn y Pencadlys
• Cadeirio’r Tîm Rheoli ar y Cyd
Y Rheolwr TG
• Goruchwylio’r broses o adrodd ar berfformiad a’i wella, yn cynnwys cronfa ddata Ffynnon
• Datblygu systemau a pheiriannu prosesau ar draws yr Awdurdod
• Monitro ac adrodd ar risg
• Llywodraethu gwybodaeth, yn cynnwys cynhyrchu’r cynllun adfer mewn trychineb
• Hyrwyddwr Datblygu Cynaliadwy y Tîm Rheoli Corfforaethol
_________________________________________________________