Amcanion Corfforaethol

  1. Dangos rheolaeth gynaliadwy o’r tir ar y tri safle sy’n berchen i Awdurdod y Parc Cenedlaethol erbyn mis Mawrth 2007 er mwyn iddynt fod yn batrymau arfer gorau.
  2. Gwella cadwraeth a gwella amgylchedd adeiledig unigryw’r Parc, trwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r Gronfa Adfywio Ffisegol yn Aberhonddu, Crughywel a Thalgarth.
  3. Integreiddio egwyddorion dylunio cynaliadwy i’r broses ddatblygu a rheoli drwy gyhoeddi canllaw dylunio cynaliadwy ac arweiniad cynllunio atodol erbyn mis Mawrth 2007.
  4. Gwella gwasanaethau cwsmeriaid i Reoli Datblygu a Gwasanaethau Ymwelwyr drwy roi cynlluniau gweithredu ar waith erbyn mis Mawrth 2007.
  5. Gwneud y Parc yn fwy hygyrch a chroesawgar i ystod ehangach o ymwelwyr drwy weithredu’r strategaethau cynhwysiant cymdeithasol erbyn mis Mawrth 2008.
  6. Gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy trwy weithredu Cam un o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy erbyn mis Ionawr 2007, a chyflwyno cyfundrefn reoli gadarnhaol ar gyfer defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd.
  7. Ailddatblygu a lansio gwefan newydd i alluogi mwy o fynediad i’r cyhoedd i’r Parc Cenedlaethol a’i wasanaethau erbyn mis Mawrth 2007.
  8. Datblygu’r seilwaith Llywodraethu Corfforaethol er mwyn gwella’r broses benderfynu, rheoli perfformiad a chynllunio busnes erbyn mis Mawrth 2008.
  9. Cynhyrchu Strategaethau Addysg a Dehongli sy’n gynhwysol yn gymdeithasol erbyn mis Mawrth 2007.
  10. Cymhwyso statws Geoparc er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r dreftadaeth ddaearegol er budd cymunedau yn ardal Geoparc y Fforest Fawr trwy roi’r cynllun gweithredu ar waith erbyn mis Hydref 2008.
  11. Gwneud y defnydd gorau o’r statws Parc Cenedlaethol i helpu cymunedau lleol addasu i’r newid yn yr hinsawdd a newid yn y PAC trwy ddatblygu enghreifftiau o arfer gorau ac arddangosiadau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Mynydd Illtyd erbyn mis Rhagfyr 2006.
  12. Meithrin egwyddorion datblygu cynaliadwy drwy’r Awdurdod cyfan a’i waith, trwy ddatblygu a chynnal polisïau priodol mewn cynlluniau rheoli a datblygu diweddar.
  13. Gwreiddio rheolaeth gadarn o adnoddau amgylcheddol drwy gyflawni lefel 4 y Ddraig Werdd erbyn mis Mawrth 2007.
  14. Hyrwyddo egwyddorion twristiaeth gynaliadwy drwy gyflawni’r Siarter Twristiaeth Gynaliadwy Ewropeaidd erbyn mis Hydref 2007.