Cyhoeddi 'Flora of Brecknockshire', sy'n dathlu oes o ddarganfyddiadau botanegol
Mae llyfr newydd diffiniol yn dogfennu'r blodau gwyllt, y coed a'r planhigion a ddarganfuwyd yn sir hanesyddol Brycheiniog, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r Flora yn benllanw gwaith oes gan Mike Porter, botanegydd lleol uchel ei barch. Dechreuodd Mike gofnodi planhigion Sir Frycheiniog yn y 1960au, gan archwilio'r sir yn systematig a mapio'r planhigion. Parhaodd Mike i weithio ar The Flora i'w 90fed flwyddyn a gwelodd ddrafft terfynol y llyfr cyn iddo farw yn 2025. Ers hynny, mae'r gwaith wedi cael ei olygu'n ofalus a'i gyhoeddi gan ei ffrind a'i gydweithiwr, John Crellin. Y cyhoeddiad nodedig hwn yw'r adroddiad cynhwysfawr cyntaf o fywyd planhigion Sir Frycheiniog ers i Fioled y Mynydd gael ei gofnodi ym 1667. Mae'n crynhoi gwybodaeth anhygoel Mike am Sir Frycheiniog a'i blanhigion, gan gyfuno dros 55 mlynedd o gofnodion maes diweddar ochr yn ochr â data hanesyddol. Mae'n glod i Mike a'r 400 o fotanegwyr sydd wedi cyfrannu at y darn trawiadol hwn o waith, ochr yn ochr â John Crellin am hwyluso cynhyrchiad The Flora . Mae'n garreg filltir bwysig i fotaneg Cymru. Mike Porter oedd Cofiadur Sirol Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon ar gyfer Sir Frycheiniog o 1968. Roedd gan Mike arbenigedd anhygoel mewn planhigion sy'n enwog o anodd eu henwi fel y Gerddinen Wen, Dant y Llew, Mieri a Heboglys. Enwodd 9 rhywogaeth newydd i wyddoniaeth ac enwir Dant y Llew Porter (Taraxacum porteri) ar ei ôl. Mae Sir Frycheiniog yn gartref i amrywiaeth eithriadol o blanhigion. Mae'r Tormaen Cyferbynddail arctig-alpaidd yn glynu wrth glogwyni uchel Pen y Fan ar ei derfyn deheuol ym Mhrydain lle mae wedi bod ers yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae Pig yr Aran y Weirglodd, rhywogaeth ddeheuol, yn ffurfio drifftiau lliwgar mewn hen ddolydd ac ar ymylon ffyrdd. Mae rhai safleoedd botanegol anhygoel yn Sir Frycheiniog, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig y Cilau sy'n cefnogi pedair rhywogaeth nad ydynt i'w gweld yn unman arall yn y byd a Llyn Syfaddan (Llyn Llangors) gyda'i wlyptiroedd amrywiol. Lansiwyd Fflora of Brecknockshire yn ffurfiol gan Stephanie Tyler, Llywydd etholedig Cymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon. …