Gwelliannau hanfodol i ddiogelu cronfa ddŵr Penffordd-goch

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau gyda’r gwaith diogelu hanfodol er mwy gwarchod dyfodol cronfa ddŵr Penffordd-goch, ger Blaenafon. Mae’r gwaith yn dilyn arolwg statudol annibynnol ac argymhellion a wnaed dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Yn unol â’r ddeddfwriaeth, ystyrir y gronfa ddŵr yn beryg mawr, ac mae gan yr Awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i gyflawni’r Mesurau Er Budd Diogelwch. Bwriad y cynllun arfaethedig yw cryfhau diogelwch a gwytnwch hirdymor y gronfa ddŵr wrth warchod yr elfennau amgylcheddol a threftadaethol sy’n gwneud y safle’n un mor arbennig. Mae’r gronfa wedi ei lleoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Heneb Gofrestredig o fewn Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r arwyddnodau hyn yn ystyriaethau hanfodol o ran y modd y dyluniwyd y cynllun a’r ffordd y caiff ei gyflawni.

Cyflwynwyd cais cynllunio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, disgwylir i’r gwaith wella’r sianel orlifo, y llwybr ceffylau sy’n rhedeg ar hyd brig y argae, y strwythur allfa a’r nodweddion rheoli dŵr cysylltiedig. Yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth a’r broses gaffael, disgwylir i’r gwaith ddechrau yn hanner cyntaf 2027 a chymryd tua phedwar i chwe mis.

Bydd angen gwagio’r gronfa ddŵr er mwyn galluogi i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel. Bydd angen newidiadau dros dro i’r fynedfa hefyd yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd y rhain yn cynnwys cau’r prif faes parcio, cyfyngu ar fynediad i’r gronfa ddŵr a’r llwybr ceffylau ar wal yr argae, a rhywfaint o darfu lleol ger y safle. Disgwylir i faes parcio Fox Hunter’s, sy’n agos at y safle, aros ar agor.

Dywedodd Kevin Eadon-Davies, Pennaeth Ystadau a Rheolaeth Gefn Gwlad yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae Penffordd-goch yn safle sy’n annwyl iawn i nifer o bobl, ac mae’r atgyweiriadau hanfodol hyn yn gam pwysig tuag at ddiogelu’r gronfa ddŵr yn yr hirdymor. Rydym yn cydnabod faint mae’n ei olygu i’r gymuned leol, ymwelwyr, ffermwyr sy’n pori anifeiliaid yno a sefydliadau partner. Bydd y gwaith yn bodloni ein dyletswyddau diogelwch cyfreithiol. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y gweithgareddau a’r amserlenni wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”

Gwnaed y gwaith arfaethedig i wella treftadaeth bwysig Penffordd-goch yn bosib drwy gronfa gyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/2027 ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.