Perseid a Planetariwm

Archwiliwch ein Cosmos yng Ngŵyl Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog

Bydd y rhai sy’n hoffi syllu ar y sêr yn cael arddangosfa anhygoel wrth i’r gawod sêr Perseid flynyddol ddychwelyd, gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig un o’r lleoliadau gorau yn y DU i weld y digwyddiad awyr dywyll hwn.

Yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ddynodedig, mae’r parc yn leoliad gwych i weld golygfeydd syfrdanol, glir o awyr y nos – y lleoliad delfrydol ar gyfer gwylio meteor. Yn uchafbwynt calendrau llawer o seryddwyr oherwydd ei gyfradd uchel yr awr a’i meteorau llachar, eleni bydd cawod meteor Perseid yn weithredol tan Awst 24ain, gyda’i uchafbwynt ddydd Mawrth Awst 12fed. Er bod hyn yn cyd-fynd â Lleuad lawn, mae’r Perseids yn aml yn cynhyrchu peli tân llachar a ddylai fod yn weladwy o hyd.

“Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lleoliad gwych ar gyfer syllu ar y sêr ac arsylwi’r prif ddigwyddiadau nefol yn awyr y nos. Ar y 12fed o Awst nid yn unig yw hi’n uchafbwynt cawod sêr Perseids, ond yn oriau mân y bore, bydd hefyd yn cynnwys appulse pan fydd Iau a Gwener, dau o’r gwrthrychau mwyaf disglair yn yr awyr, yn ymddangos yn agosaf at ei gilydd.” meddai Nick Busby, Cadeirydd Cymdeithasau Seryddol Brynbuga a’r Fenni.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn annog ymwelwyr i wisgo’n gynnes a gadael i’w llygaid addasu i amodau tywyll y nos trwy ddefnyddio golau coch. Ymhlith y lleoliadau gwylio a awgrymir mae Cronfa Ddŵr Wysg, Y Gelli a Llyn Llangors. Atgoffir ymwelwyr hefyd i barchu’r amgylchedd naturiol a’r preswylwyr lleol, dilyn y cod cefn gwlad, a gwirio rhagolygon y tywydd cyn mynd allan.

I’r rhai sy’n awyddus i archwilio rhyfeddodau Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Bannau Brycheiniog, bydd y Parc Cenedlaethol yn cynnal Gŵyl Awyr Dywyll ddydd Sadwrn Medi 20fed 2025. Cynhelir Gŵyl yr Awyr Dywyll yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus – un o’r lleoliadau syllu ar y sêr gorau yn y DU – gan ddwyn ynghyd raglen gyffrous o sioeau planetariwm, teithiau cerdded, syllu ar y sêr wedi ei dywys a gweithdai.

Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae Nature by Night, cyfres gyfareddol o weithgareddau lle gall plant 3–12 oed ddarganfod rhyfeddodau ein hawyr dywyll a’n bywyd gwyllt diddorol y nos. Bydd y ffotograffydd enwog Dafydd Wyn Morgan yn cynnal  sesiwn Astroffotograffiaeth  arbennig i ddal y Llwybr Llaethog a gwrthrychau nefol eraill. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys y Digwyddiad Sylllu ar y ser Gorau, antur cosmig tair rhan sy’n cynnwys ymgolli mewn profiad planetariwm, sgyrsiau ysbrydoledig gan arbenigwyr blaenllaw, a’r cyfle i archwilio awyr y nos gan ddefnyddio telesgopau pwerus.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion y digwyddiad a gwybodaeth am docynnau, ewch i https://shop.beacons-npa.gov.uk/pages/dark-sky-festival-landing-page