Mae Pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei gyfarfod sefydlu.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn un o bedwar sy’n cael eu sefydlu led led Cymru gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio gwneud penderfyniad mewn tri maes allweddol.
Mae’r pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ar gyfer materion cynllunio) ac uwch gynrychiolwyr o’u sefydliadau.
Gwnaed nifer o apwyntiadau yn y cyfarfod cyntaf ar ddydd Mawrth (Ionawr 25). Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei hethol yn gadeirydd am y 12 mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys, yn is-gadeirydd.
Bydd Dr. Caroline Turner Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn gwneud dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor ar gyfer blwyddyn gyntaf ei waith.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Bydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd eisoes ar waith yn ein rhanbarth. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n gilydd er budd ein trigolion a’n busnesau.”
Mae’r pwyllgor wedi cael y dasg o ddatblygu trafnidiaeth ranbarthol, cynlluniau datblygu strategol a gwella lles economaidd.
Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.