Waitrose yn cefnogi prosiect Perllan Gymunedol ar hen Reilffordd Govilon

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn rhodd o £3000 oddi wrth Waitrose, rhan o’u Cynllun Cymunedau’n Cyfrif.  Defnyddiwyd arian o’r cynllun i helpu ein cymunedau lleol gyda phrinder bwyd, problemau iechyd meddwl ac i daclo newidiadau amgylcheddol.

Defnyddiwyd y rhodd i brynu drôn a choed afalau i ymestyn y berllan gymunedol y mae’r Awdurdod yn ei sefydlu ar hen reilffordd Govilon, sydd, erbyn hyn, yn llwybr hawdd a phoblogaidd sy’n arwain o’r Fenni at ardal Govilion.

Bydd y drôn yn cael ei defnyddio i arolygu mawndir cyn cynnal gwaith cadwraeth.   Mae mawndir yn gynefin bregus ac unigryw yn yr ucheldir ac mae tîm Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrthi’n brysur yn mapio ac yn cynnal gwaith cadwraeth arno.  Mae gwaith cadwraeth ar fawndir yn agwedd bwysig o liniaru newid hinsawdd oherwydd bydd mawn sy’n cael ei reoli a’i ddiogelu, ynghyd â mwsogl a phlanhigion tir gwlyb, yn cloi llawer iawn o garbon deuocsid.

Meddai Heidi, hyrwyddwr cymunedol ar ran Waitrose “Mae Waitrose wedi dewis cyfrannu’r arian i’r Parc Cenedlaethol i helpu i ymladd newid hinsawdd a bydd y drôn yn ychwanegiad gwych i’r parc.  Rwyf hefyd wrth fy modd y bydd yn mynd i helpu talu am y coed afalau sydd yn agos at ein archfarchnad yn Govilion.”

Y mis diwethaf, ymunodd gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned, gyda help y gwasanaeth prawf, â’r wardeiniaid i ddechrau plannu’r coed.  Cafodd cyfanswm o 20 o goed eu plannu.  Er mwyn plannu’r coed, cliriwyd mieri o ddarnau helaeth o dir, digon o le i osod seddi yn y dyfodol, a fydd yn galluogi pobl i gael saib a mwynhau’r golygfeydd wrth gerdded hen reilffordd Govilion.

Yn ogystal â phlannu coed, cafodd plygiau o flodau gwyllt hefyd eu plannu, rhodd gan Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog, a fydd yn ychwanegu at y cynefin sy’n cael ei greu.

Meddai Sam Harpur, Warden y Parc Cenedlaethol “Mae’r arian gan Waitrose o help mawr gyda’r prosiect hwn, mae’n ymestyn y berllan ac yn annog y gymuned i gymryd rhan mewn gofalu am reilffordd Govilion.  Mae gwaith arall ar y rheilffordd yn cynnwys monolithio coed Ynn sydd â chlefyd coed ynn.  Trwy fonolithio’r coed yn hytrach na’u torri i lawr yn llwyr, maen nhw’n dal yn gallu bod yn gynefin bywyd gwyllt.  Mae’r blodau gwyllt yn fonws ychwanegol, yn llonni’r ardal ac yn creu amrywiaeth o gynefinoedd i fywyd gwyllt”.

DIWEDD