Cymorth i lunio dyfodol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Allwch chi helpu i ddiogelu a meithrin un o dirweddau mwyaf annwyl Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru am benodi aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hwn yn gyfle i chwarae rôl hanfodol wrth amddiffyn a gwella’r ardal hon sy’n hollbwysig yn rhyngwladol.

Mae Bannau Brycheiniog yn fwy na thirwedd syfrdanol; mae’n amgylchedd byw sy’n cefnogi bywyd gwyllt, diwylliant a chymunedau. Fel Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, byddwch yn cynorthwyo i lywio cyfeiriad strategol y Parc, gan sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf dybryd ein hoes, gan gynnwys gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Mae Parciau Cenedlaethol yn ganolog i agenda iechyd a lles Cymru ac yn cynnig mannau ar gyfer hamdden, dysgu a chysylltiad â natur. Maent hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi cymunedau lleol bywiog a meithrin cynhwysiant.

Mae Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, am ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r Awdurdod, gosod polisïau a sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni. Mae gan bob Aelod statws cyfartal yn yr Awdurdod, p’un a yw’n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru neu gan Awdurdod Lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio ar y cyd i ddiogelu’r amgylchedd naturiol, wrth gefnogi cymunedau ac ysbrydoli pobl i ymgysylltu â natur.

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n gwerthfawrogi stiwardiaeth amgylcheddol ac eisiau cyfrannu at lunio dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy, rydym yn eich gwahodd i ddod â’ch arbenigedd a’ch gweledigaeth i’r bwrdd. Nid oes angen profiad blaenorol gydag awdurdod neu fwrdd sector cyhoeddus.Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o wahanol gefndiroedd, ar yr amod bod eu sgiliau a’u harbenigedd yn berthnasol.

“Mae arweinyddiaeth effeithiol yn hanfodol i ddyfodol ein Parc Cenedlaethol. Mae Aelodau newydd yn dod â safbwyntiau newydd i’w croesawu a sgiliau a phrofiadau amrywiol i’n gwaith ni a’n partneriaid wrth i ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni Dyfodol y Bannau, ein Cynllun Rheoli.

Mae rôl yr Aelodau yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hanfodol er mwyn y sgogi’r   camau sydd eu hangen i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, natur a lles ac i gynnal rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”             

Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gwnewch gais erbyn 4pm ar 3 Chwefror 2026 yn llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus. Cynhelir cyfweliadau ar 9 a 10 Mawrth 2026.

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â pu****************@*ov.wales neu ffoniwch 0300 025 5454.

DIWEDD