Cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener Mehefin 27ain lle etholwyd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe (Cyngor Sir Powys) yn Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dyma ei ail dro yn y rôl. Penodwyd Dr Liz Bickerton (penodwyd gan Lywodraeth Cymru) yn Ddirprwy Gadeirydd.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe:
“Mae’n anrhydedd i mi ddychwelyd fel Cadeirydd ac rwy’n ddiolchgar am yr hyder a roddwyd ynof i ymgymryd â’r rôl hon unwaith eto. Hoffwn ddiolch i’r cadeirydd sy’n gadael Aled Edwards am ei arweinyddiaeth gyson yn ystod amseroedd heriol. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Liz a Catherine i wasanaethu cymunedau’r Parc ac adeiladu ar y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud hyd yma wrth gyflawni Dyfodol y Bannau”
Dywedodd Dr Liz Bickerton:
“Mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol yn Ddirprwy Gadeirydd a byddaf yn dod â fy mhrofiad helaeth o bolisi amaethyddol, rhaglenni cymorth gwledig y llywodraeth a rhaglenni cyllido rheoli, llawer gyda ffocws cymunedol i’w ddwyn wrth i ni fwrw ymlaen â’n gwaith dros y flwyddyn i ddod. Edrychaf ymlaen hefyd at barhau i gyfrannu at waith pwysig Partneriaeth Dalgylch yr Wysg a Bwrdd Rheoli Maetholion Gwy wrth i ni fynd i’r afael â’r mater hanfodol o iechyd dalgylchoedd ac afonydd.’
Roedd y penodiadau eraill a wnaed yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cynnwys Mr Steve Rayner fel Cadeirydd Cynllunio, gyda’r Cynghorydd Huw Williams yn Ddirprwy. Cafodd Cadeirydd sy’n gadael y Pwyllgor Cynllunio, Julian Stedman ei gydnabod am ei wasanaeth a’i fewnbwn amhrisiadwy i’r gwasanaeth cynllunio dros ei 7 mlynedd yn y gadair.
Dywedodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr:
“Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am eu hymrwymiad parhaus i’r Parc Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf. Mae eu harweinyddiaeth a’u cefnogaeth yn hanfodol wrth i ni adeiladu ar Ddyfodol y Bannau,ac adeiladu Parc lle gall natur a chymunedau ffynnu gyda’i gilydd, a pharhau â’n trawsnewidiad i fod yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan genhadaeth”
Gallwch wylio holl gyfarfodydd pwyllgor ar ein sianel youtube yma – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – YouTube
–DIWEDD–