Gwnewch Rywbeth Newydd a Rhannu’ch Stori

Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol, 2 – 18 Ebrill

Mae Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol yn ôl rhwng 2 – 18 Ebrill, yn dilyn bwlch gorfodol o ddwy flynedd oherwydd COVID. Yn ystod yr amser hynny dangosodd y nifer heb eu tebyg o bobl oedd yn anelu at dir gwyllt y DU am y tro cyntaf werth ymweld â mannau gwyrdd a glas.  Eleni, mae’r Parciau Cenedlaethol ar draws y DU yn annog pobl i gofleidio ac ymestyn yr ysbryd hwnnw, i ‘Wneud rhywbeth newydd a rhannu’ch stori’. Dros gyfnod y pythefnos bydd y Parciau Cenedlaethol yn awgrymu pum ffordd o wneud rhywbeth newydd ac, yn ystod penwythnos olaf y Pasg o’r pythefnos, bydd yn lansio ffordd newydd sbon o rannu’ch stori.

Meddai Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr Bannau Brycheiniog, “Mae cysylltu â natur yn rhan hanfodol o lesiant. Eleni, rydym yn gwahodd pobl i ystyried ychydig yn fwy sut maen nhw’n ymweld ac efallai, yn profi rhywbeth newydd. Byddwn wrth ein bodd yn gweld pobl yn rhannu profiadau positif ym Mannau Brycheiniog, felly, rydym hefyd yn gofyn i bobl defnyddio #DiscoverNew a #GreenSpaceStories fel ein bod ni i gyd yn hyrwyddo’r ffyrdd gorau, mwyaf pleserus, mwyaf cynaliadwy o fwynhau ein Parciau Cenedlaethol ac yn gofalu amdanyn nhw’r un pryd.

Y pum ffordd o wneud rhywbeth newydd:

  1. Darganfod gyda’n gilydd: #JoinInJoinUp

Os ydych chi’n ddibrofiad neu heb fod yn archwilio cefn gwlad o’r blaen, mae’n gallu ymddangos braidd yn frawychus. Y Parciau Cenedlaethol yw rhai o’r lleoedd gorau i gymryd y cam cyntaf. Trwy’r Parciau Cenedlaethol mae pobl yn gallu Ymuno mewn neu Gymryd rhan mewn rhai o’r nifer o weithgareddau a grwpiau lleol sydd wedi’u dylunio i’ch cyflwyno chi i’r mannau arbennig hyn – yn ystod y pythefnos neu gydol y flwyddyn. Mae yma rywbeth i bawb, ai’n ymweld ar eich pen eich hunan neu gyda ffrindiau neu deulu, a gallwch ymweld am ddim.

  1. Darganfod gwirfoddoli

I lawer o bobl sy’n ymweld â’r Parciau Cenedlaethol, bydd y profiad hwnnw wedi’i wneud yn well neu’n haws trwy ymdrechion ein gwirfoddolwyr. Mae’n un ffordd hanfodol y gallwch roi rhywbeth yn ôl ac mae yna lawer o wahanol ffyrdd o wirfoddoli, waeth beth yw’ch oedran, eich profiad neu faint o amser sydd gennych. Gallwch ganfod rhagor yma: https://www.beacons-npa.gov.uk/the-authority/volunteering

  1. Darganfod dyfodol newydd

Mae penwythnos ganol Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol (9 – 10 Ebrill) wedi’i neilltuo i Arweinwyr Ifanc mewn Parciau Cenedlaethol. Trwy wahanol raglenni, mae pobl ifanc sy’n angerddol am ein tirweddau a’r amgylchedd yn cael blas ar sut beth yw bachu ar y cyfle a chymryd rhan. Gall hynny arwain at gyrfaoedd yn yr economi werddd, ond mae hefyd yn rhoi iddyn nhw lais gwirioneddol ym mudiad y Parciau Cenedlaethol heddiw. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu hamlygu ar gyfer pobl ifanc a bydd sianelu cyfryngau cymdeithasol y Parciau Cenedlaethol yn rhannu negeseuon oddi wrth gyfranogwyr yn y digwyddiad diweddar yn y Peak District, ‘Youth Voice’, am eu gobeithion am y dyfodol a sut maen nhw’n dechrau eu gwireddu heddiw trwy’u gwaith yn y Parciau Cenedlaethol.

  1. Darganfod lleoedd newydd

Er mwyn helpu ymwelwyr osgoi ffyrdd, meysydd parcio ac atyniadau sydd wedi’u gorlenwi, mae pob un o’r Parciau Cenedlaethol eisiau ei gwneud yn haws i ymwelwyr ddarganfod y mannau llai enwog – ond yr un mor anhygoel – o fewn y Parciau.

Ychwanegodd Catherine, ‘Mae lleoliadau megis Gwlad y Sgydau a Phen y Fan yn croesawu miliynau o ymwelwyr pob blwyddyn. Mae hynny’n gallu gosod straen ar fywyd gwyllt a chymunedau lleol; byddwn wrth ein bodd yn annog ymwelwyr i ystyried rhywle tawelach a medi’r manteision o archwilio ardaloedd mwy heddychlon. Ym Mannau Brycheiniog mae Geobarc Byd-eang UNESCO, sydd dros orllewin y Parc Cenedlaethol. Ffordd wych o ddechrau archwilio rhai o’n gemau llai enwog yw lawrlwytho’n ap geotours newydd, sy’n rhoi gwybodaeth am bedair taith gerdded trwy’r Geobarc.” Gallwch ganfod rhagor am yr ap yma – https://www.beacons-npa.gov.uk/the-authority/press-and-news/press-releases/september-2021/new-geotours-app-for-fforest-fawr-geopark/

  1. Darganfod ffyrdd newydd

Ffordd syml o osgoi’r stres o yrru trwy lonydd prysur a chael hyd i fan parcio yw defnyddio dewisiadau teithio mwy cynaliadwy, gan gynnwys trenau, bysiau a beiciau. Mae’r daith yn dod yn rhan o’r profiad ac yn aml, mae’n gallu bod yn ddewis mwy cynaliadwy. Mae gan Traveline Cymru declyn gwych ar gyfer mapio taith ar llwybrau cludiant cyhoeddus: https://www.traveline.cymru/

Rhannu’ch Stori

Yn ystod y pythefnos, bydd y Parciau Cenedlaethol yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i ddefnyddio #DiscoverNew a #GreenSpaceStories i rannu ble maen nhw wedi ymweld â’r pethau newydd maen nhw wedi’u gwneud.  Ar ddiwedd Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol bydd llwyfan newydd unigryw yn cael ei lansio sydd wedi’i ddylunio’n benodol i rhannu storïau am ymweld â mannau gwyrdd a glas mewn ffordd sy’n gallu dylanwadu ar sut mae pobl yn archwilio ac yn cael mynediad at gefn gwlad y DU am genedlaethau i ddod.

Meddai Catherine, “Wrth rannu storiau am rywbeth newydd, mae’n hymwelwyr yn gallu dylanwadu ar eu ffrindiau, teuluoedd a dilynwyr i ddarganfod popeth sy’n wych am Barciau Cenedlaethol mewn modd sy’n eu siwtio nhw ac sy’n ein helpu i ofalu amdanynt am byth.”

– Diwedd –