Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar y cyhoedd i helpu i adnabod coed Poplys Du ar draws y parc a’r ardaloedd cyfagos, mewn ymdrech hanfodol i amddiffyn y rhywogaeth frodorol prin hon rhag difodiant.
Mae coeden frodorol fwyaf mewn perygl ym Mhrydain1, y Poplys Du (Populus nigra subsp. betulifolia), yn diflannu o’n tirwedd. Ar un adeg roedd yn olygfa gyfarwydd ar hyd gorlifdiroedd a glannau afonydd, amcangyfrifir bellach bod llai na 7,000 o Boplys Du brodorol ar hyd ledled y DU. Yng Nghymru, mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol, gyda dim ond 200 o Boplys Du ar ôl, dim ond llond llaw ohonynt yn fenywaidd.

Mae cydweithrediad rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Stump Up for Trees, Woodland Trust a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a ariennir gan Sustainable Landscapes Sustainable Places, yn gweithio i amddiffyn a gwarchod y goeden bwysig hon. Mae’r grŵp hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Henffordd a chydweithwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae dirywiad y Poplys Du yn bennaf oherwydd colli ei goed benywaidd. Yn hanesyddol, tynnwyd poplys du benywaidd i atal lledaeniad eu hadau blewog nodweddiadol, gan leihau gallu’r rhywogaeth i adfywio’n naturiol yn sylweddol. Mae newidiadau i orlifdir a dyfrffyrdd hefyd wedi effeithio ar egino hadau, tra bod y galw am bren wedi arwain at golli cannoedd o goed. Mae cyflwyno poplys hybrid wedi gwanhau’r boblogaeth frodorol ymhellach, gyda’r rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu o’n cefn gwlad.

Ond mae gennym amser o hyd – meddai Sam Harpur, Swyddog Coetir Bannau Brycheiniog, “Trwy’r cydweithrediad hwn, rydym yn mapio a chofnodi poplys du presennol yn y Parc Cenedlaethol a’r ardaloedd cyfagos. Mae toriadau, yn enwedig o goed benywaidd, yn cael eu tyfu mewn meithrinfeydd fel y rhai yn Ystâd Penpont, a ariennir gan Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog, er mwyn sicrhau ailblannu a chadwraeth hirdymor y rhywogaeth hon.”
Sut allwch chi helpu
Er mwyn cefnogi ymdrechion cadwraeth, rydym yn gofyn i’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw Poplys Du rydych yn dod are u traws. Mae mapio’r coed prin hyn yn gam hanfodol i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol:
- Tynnwch llun
- Cofnodwch y lleoliad
- Anfonwch eich darganfyddiad at Sa***********@*************ov.uk
Sut i Weld Poplys Du
Gall adnabod Poplys Du fod yn anodd, ond dyma rai nodweddion allweddol:
- Hadau blewog tebyg i gotwm ar goed benywaidd yn y Gwanwyn/Haf.
- Rhisgl garw, sy’n hollti
- Yn aml yn gwyro i un ochr
- Canghennau isaf yn disgyn mewn bwa
- Mae burrs (tyfiant mawr) yn gyffredin
- Mae gan ddail ifanc petioles blewog (defnyddiwch chwyddwydr!)
- Mae gan goed gwrywaidd gynffonau oen bach coch, mae gan goed benywaidd gynffonau oen bach gwyrdd
Trwy ein helpu i ddod o hyd i’r Poplys Du, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn eu cadwraeth, gan sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r rhan bwysig hon o’n treftadaeth naturiol.
– DIWEDD –