Aelod wedi’i geryddu gan y Pwyllgor Safonau

Mae cynghorydd sir ym Mhowys a ymddangosodd gerbron Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion am dorri’r Cod Ymddygiad wedi ei geryddu.

Cafodd y Cynghorydd Iain McIntosh, sy’n cynrychioli ward Ysgir gyda Honddu Isaf a Llanddew, ei geryddu yn dilyn gwrandawiad gan y Pwyllgor Safonau ar 23 Awst, 2024.  Rhoddwyd 21 diwrnod i’r Cynghorydd McIntosh apelio yn erbyn y penderfyniad

Dyfarnodd y gwrandawiad, a gafodd ei gynnal o flaen pump o bobl annibynnol a dau gynghorydd sir, fod y Cynghorydd McIntosh, wedi torri paragraffau canlynol y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau:

4.Rhaid ichi — (b) dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill;

7. Rhaid ichi beidio — (a) yn rhinwedd eich swydd swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio eich swydd yn amhriodol i roi neu sicrhau mantais i chi eich hun, neu unrhyw berson arall, neu greu neu osgoi anfantais i chi eich hun, neu unrhyw berson arall.

Gellir dod o hyd i gofnodion y gwrandawiad fan hyn:

Ystyriodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Powys ar 7 Chwefror 2024 y materion rhagarweiniol sy’n ymwneud ag atgyfeirio cwyn oddi wrth Ombwdsmon Cymru [Cyf:202201455].  Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r achos at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion am benderfyniad.

Hysbysiad

Hysbysiad o benderfyniad