Gŵyl Awyr Dywyll yn dychwelyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o gyhoeddi ei 3ydd Gŵyl Awyr Dywyll flynyddol ddydd Sadwrn Medi 21ain 2024 yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Mae’r ŵyl eleni yn addo cyfres gyfareddol o ddigwyddiadau nefol, perffaith beth bynnag eich oed.
Gall mynychwyr yr ŵyl edrych ymlaen at sesiynau syllu ar yr haul, gan gynnig cyfle unigryw i arsylwi ar ein seren agosaf yn ddiogel. Wrth i’r cyfnos ddisgyn, byddwn yn cychwyn Syllu ar y Sêr, gan ganiatáu i’r rhai sy’n bresennol archwilio rhyfeddodau awyr y nos trwy delesgopau pwerus.
I’r rhai sy’n well ganddynt brofiad mwy naratif, bydd sesiynau llafar yn dod â mythau a chwedlau’r sêr yn fyw. Bydd sesiynau yn y Planetariwm awyr agored yn cynnig,sioeau addysgol, sy’n addas i’r teulu cyfan.
Rydym mor gyffrous i fod yn trefnu ein 3ydd Gŵyl Awyr Dywyll flynyddol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,” meddai Carol Williams, y Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy. “Mae’r digwyddiad hwn nid yn unig yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i warchod harddwch awyr y nos ond mae hefyd yn darparu profiad addysgol ac ysbrydoledig i bob oedran.”
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus am ddiwrnod a nos yn llawn rhyfeddod a dysgu a gwerthfawrogiad am awyr ein nos. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, ewch i breconbeacons.org/stargazing
Mae uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys:
Digwyddiadau Drwy’r Dydd – Am ddim
10am – 4pm Gwylio’r Haul am ddim gyda Chymdeithas Seryddol Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, Hedgehog Helpline, The Uskelele Band, Carmarthen Cameras a MSG-Meteorites.
Mythau a Chwedlau’r Awyr Dywyll – £7
12pm / 3pm
Dysgwch sut i adnabod cytserau a’r straeon a’r chwedlau y tu ôl iddynt.
Taith o amgylch Cysawd yr Haul – £7
1pm / 4pm
Glanio ar Gwener a dilyn lleuadau y blaned Iau yn y sioe blanedol 360° hon.
Mythau, Chwedlau a Chastiau – £5
3.30pm
Ymunwch â Phill Wallace (Cymdeithas Seryddol Caerdydd) am drafodaeth ar ddamcaniaethau ffug – o ble maen nhw’n dod, pam maen nhw’n parhau a pham eu bod nhw’n beryglus.
Straeon y Sêr – £15
7pm
Mae’r storïwr a’r awdur arobryn Daniel Morden yn dychwelyd i adrodd straeon traddodiadol bythol a hudol am yr haul, y lleuad a’r sêr.
Anogir ymwelwyr i ddod â dillad cynnes ac ymdeimlad o ryfeddod wrth iddynt ymgasglu o dan ganopi sêr y Parc Cenedlaethol. Mae Gŵyl Awyr Dywyll yn addo bod yn ddathliad bythgofiadwy o sioe olau fwyaf syfrdanol natur.
Cynhelir Gŵyl Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog ddydd Sadwrn Medi 21ain, ac mae’n agored i bawb. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion digwyddiadau a gwybodaeth am docynnau, ewch i breconbeacons.org/stargazing.