Hawliau natur ar gyfer Talgylch yr Wysg

Mae Partneriaeth Talgylch yr Wysg yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi penodi ‘We are Nature Based CBC’ i weithredu fel Gwarcheidwad Natur i grŵp craidd y Partneriaeth. Mae’r penodiad hwn yn cam hollbwysig i’r partneriaeth, ac yn dangos ymrwymiad parhaus yr holl aelodau o fewn y Partneriaeth i sichrau stiwardiaeth amgylcheddol a chadwraeth o fewn Talgylch yr Afon Wysg. Mae’n sicrhau bod hawliau natur yn cael eu cynsidro wrth wneud penderfyniadau.

Daw’r penodiad o ganlyniad i drafodaeth barhaus o fewn y Bartneriaeth ynglŷn â sut i sicrhau bod cynllunio a datblygu polisi yn helpu’r byd natur i ffynnu. Yn dilyn cyfres o ddiwrnodau dysgu a thrafodaethau gyda mudiadau llwyddiannus megis ‘Faith in Nature’, fe penderfynodd y grŵp craidd penodi safle newydd a fydd yn rhoi llais i’r byd natur yn y Cynllun Dalgylch Integredig ar gyfer yr Afon Wysg (bydd y Cynllun yn cael ei ymgynghori ar ddiwedd y flwyddyn hon). Mae safle’r Gwarcheidwad Natur ond yn gweithredu am 24 misar hyn o bryd. Ar ddiwedd y 24mis, bydd swydd llawn yn cael ei benodi i ddau warcheidwad natur newydd.

Mae ‘We are Nature Based’ yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n gweithredu ar draws y DU gyda chysylltiadau cryf â Thalgylch yr Wysg. Eu prif amcan yw i edrych tuag at natur yn gyntaf ym mhob cam. Mae’r mudiad yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltu pobl a sefydliadau gyda’r byd natur, fel eu bod yn gallu deall beth sydd angen iddynt eu wneud i helpu’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â:

Helen Lucocq, Pennaeth Polisi helen.lucocq@beacons-npa.gov.uk

Amdanom Ni: Mae Partneriaeth Dalgylch yr Wysg yn rhwydwaith gydweithredol sy’n ymroddi i warchod a gwella adnoddau naturiol o fewn talgylch yr Afon Wysg. Mae ein grŵp amrywiol o randdeiliaid yn cydweithio i hyrwyddo arferion rheoli cynaliadwy, diogelu cynefinoedd gwerthfawr, a meithrin ecosystemau lewyrchus er budd pawb.

Mae’r partneriaeth yn cael ei chynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. O fewn y bartneriaeth mae’r Grŵp Craidd, a ffurfiwyd ym mis Ebrill 2023. Trwy cydweithio’n effeithiol gyda’i rhanddeiliaid allweddol, rôl y grŵp craidd yw i lunio cynllun ar gyfer adfer ecolegol yn yr Afon Wysg, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hyn yn unig) creu cynllun i leihau’r nifer o maethynnau sy’n cael eu taflu i fewn i’r afon Wysg. Bydd y cynllun hon yn creu camau positif tuag at creu tai fforddiadwy, yn unol â chynllun gweithredu blaenoriaethol Llywodraeth Cymru.

Heblaw am rôl y Gwarchodwr Natur, mae’r aelodaeth yn cynnwys:-

• Dŵr Cymru Welsh Water – Tîm Dalgylchoedd

• Dŵr Cymru Welsh Water – Cyswllt ansawdd afonydd

• Cyfoeth Naturiol Cymru – Tîm yr Amgylchedd (De Ddwyrain)

• Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Aelod

• Cyngor Sir Powys – Arweinydd Cabinet ar gyfer Powys Werddach

• Cyngor Sir Fynwy – Aelod Cabinet dros hinsawdd a’r amgylchedd

• Sefydliad Gwy ac Wysg

• Ymddiriedolaethau Natur (a gynrychiolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent)

• Achub yr Afon Wysg

• Grŵp Dŵr y Bannau