Mae Parc Gwledig Craig y Nos wedi ei gau dros dro yn dilyn difrod difrifol a achoswyd gan Storm Darragh. Dymchwelodd y storm dros 100 o goed gan newid tirwedd y safle hynod boblogaidd a hanesyddol hwn yn sylweddol.
Bydd y parc yn parhau ar gau yr wythnos hon ac o bosibl yn hirach er mwyn caniatáu i dimau asesu’r difrod yn ddiogel a gwneud gwaith clirio ac atgyweirio hanfodol. Ein blaenoriaeth yw diogelwch ymwelwyr. Oherwydd maint y difrod, mae’n ofynnol i gontractwyr arbenigol glirio’r ardal. Ar hyn o bryd mae galw mawr am y contractwyr hyn yn dilyn effaith eang y storm.
Mae’r cau yn rhan o ymateb ehangach ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wrth i dimau wardeniaid weithio i werthuso ac atgyweirio difrod Storm Darragh. Daw hyn ar sodlau Storm Bert, bythefnos yn unig yn ôl, a achosodd ddifrod helaeth, gan gynnwys colli sawl pont a difrodi llwybrau cerdded. Ar hyn o bryd mae’n wardeiniaid yn blaenoriaethu clirio llwybrau, atgyweirio isadeiledd a gwneud y Parc ehangach yn ddiogel i ymwelwyr. Os ydych wedi dod ar draws unrhyw broblemau yn y Parc, defnyddiwch ein system adrodd ar-lein – https://rightsofway.beacons-npa.gov.uk
Dywedodd Paul Chapman, Rheolwr Parc Gwledig Craig y Nos:
“Mae maint y difrod a achoswyd gan Storm Darragh yn wirioneddol ddinistriol, yn enwedig mor fuan ar ôl Storm Bert. Mae staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y Parc yn cael ei wneud yn ddiogel a dechrau’r broses hir o atgyweirio. Hoffem ddiolch i ymwelwyr rheolaidd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Er bod colli coed yn cael ei deimlo’n ddwfn, bydd ymdrechion adfer yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Parc yn parhau i fod yn hafan i natur, bywyd gwyllt a’r gymuned. Mae nodweddion hanesyddol a threftadaeth yn cael eu hatgyweirio a’u disodli â ofal.
I’r rhai sy’n dymuno cefnogi ymdrechion adfer y parc, gellir gwneud rhoddion drwy’n gwefan yn BBNPA Donation
Rydym yn annog defnyddwyr rheolaidd ac ymwelwyr â’r parc gwledig i barchu’r cau dros dro am resymau diogelwch. Er y bydd y parc ei hun ar gau, bydd cyfleusterau eraill fel y maes parcio a’r toiledau, Caffi ac Emporiwm Dwy Afon, Fairy Cwtch a Fibre i gyd ar agor ac yn gweithredu yn ôl yr arfer.
Bydd diweddariadau yn cael eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch agora r gael yn gynnar yr wythnos nesaf.