Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o ddathlu cyflawniadau tri unigolyn nodedig a gydnabyddir ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am eu cyfraniadau eithriadol i’r Parc Cenedlaethol a’i gymunedau.
Mae Francesca Bell, Swyddog Datblygu Cymunedol, wedi ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am ei hymroddiad i gynwysoldeb a chydraddoldeb. Dros y degawd diwethaf, mae Fran wedi hyrwyddo ymgysylltiad ar draws pob rhan o’r gymuned, gan helpu grwpiau lleiafrifol a anodd eu cyrraedd i gyrchu’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau. Mae ei mentrau, gan gynnwys datblygu cyfleusterau newid i’r anabl yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a sicrhau reidiwr pob tirwedd, wedi gwneud y Parc yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb.
Dywedodd Fran: “Mae’n anrhydedd i mi gael fy enwebu a derbyn y wobr hon. Fodd bynnag, rwy’n un o lawer o staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol sy’n gwneud eu gorau glas dros gymunedau lleol, ymwelwyr a’n hamgylchedd gwerthfawr. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod yn rhan o’r tîm hwn.”
Mae Judith Harvey, sydd wedi bod gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers 1995, hefyd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am ei gwasanaeth rhyfeddol. Gan ddechrau ei gyrfa fel un o wardeiniaid benywaidd cyntaf y DU ym Mharc Cenedlaethol Dartmoor, mae Judith wedi dod ag angerdd ac arweinyddiaeth ddiwyro i’r Bannau. Mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn lle croesawgar, hygyrch a diogel i bawb ei fwynhau wrth gefnogi tirfeddianwyr, cymunedau a thîm y wardeniaid i reoli ac adfer y dirwedd naturiol. Mae ei hymroddiad wedi cael effaith barhaol ar yr amgylchedd a lles y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r Parc.
Dywedodd Judith: “Rwy’n credu’n gryf mewn Parciau Cenedlaethol a’r hyn y maent yn sefyll drosto—mynediad a chadwraeth natur. Mae’n fraint cael cyfrannu at eu dyfodol.”
Mae’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Dirprwy Gadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, wedi derbyn MBE am ei arweinyddiaeth ragorol yn ystod cyfnod arwyddocaol. Mae ymdrechion Gareth i foderneiddio’r Parc Cenedlaethol fel sefydliad o arwyddocâd rhyngwladol Cymreig wedi gadael etifeddiaeth barhaol. Yn ei gymuned leol o’r Gelli, mae Gareth yn cael ei edmygu’n fawr am ei ymagwedd ymarferol, gan fynd i’r afael â phopeth o faterion llywodraethu i gasglu sbwriel a diplomyddiaeth pêl-droed leol. Meddai Gareth: “Mae’n anrhydedd i mi gael MBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni. Daeth yn syndod llwyr, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i gael fy nghydnabod fel hyn.”
Ychwanegodd Catherine Mealing-Jones, Prif Weithredwr: “Rydym yn hynod falch o Fran, Judith, a Gareth am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae eu hangerdd, eu hymroddiad a’u gwaith caled yn wirioneddol ysbrydoledig, gan wneud gwahaniaeth dwfn i’n Parc Cenedlaethol a’i gymunedau. Mae’r anrhydeddau hyn yn dathlu eu cyfraniadau unigryw a’r gwerthoedd sydd yn bwysig gennym ym Mannau Brycheiniog.”